Etholwyd Elin Jones AC yn Llywydd newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Etholwyd yr Aelod Cynulliad dros Ceredigion yn ystod Cyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad newydd yn y Senedd.
Mae gan y Llywydd bwerau a chyfrifoldebau sylweddol sy'n golygu mai'r swydd yw'r un bwysicaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r rôl yn dylanwadu ar bob agwedd ar y Cynulliad - o'i weithrediad o ddydd i ddydd a'r drefn arferol ar gyfer rheoli busnes, i'w ddatblygiad fel prif sefydliad democrataidd Cymru, ei safle yng nghyfansoddiad y DU a'i statws yn llygaid y cyhoedd.
Wrth dalu teyrnged i'w rhagflaenydd dywedodd Elin Jones : "Mae'r Fonesig Rosemary Butler wedi bod yn llysgennad ardderchog ar gyfer y Cynulliad dros y pum mlynedd diwethaf.
"Mae hi wedi chwalu'r rhwystrau i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yng Nghymru, yn enwedig ymhlith menywod drwy ei hymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus; i bobl ifanc drwy eu rhoi yn gadarn wrth wraidd busnes y Cynulliad a chreu mwy o gyfleoedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
"Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar ei llwyddiant hi wrth wneud y gwaith yr ydym ni, fel Aelodau'r Cynulliad, yn ei wneud yma yn y Senedd."
Etholwyd Ann Jones AC yn Ddirprwy Lywydd. Mae Ann Jones yn Aelod Cynulliad dros Ddyffryn Clwyd.