Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lansio ap

Cyhoeddwyd 25/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/03/2015

​Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ap symudol, sy'n darparu ffordd arall i bobl gael gwybodaeth am beth sy'n digwydd yn y Cynulliad.

Nod yr ap, a gaiff ei lansio ddydd Sadwrn 28 Mawrth yn y derbyniad TEDx a gynhelir yn y Senedd, yw cyflwyno gwybodaeth allweddol mewn ffordd glir a syml.

Ceisia'r ap sicrhau bod gwybodaeth am y Cynulliad ar gael yn hawdd i bobl ar eu dyfeisiau symudol, yn Gymraeg a Saesneg. Caiff ei ddiweddaru a'i wella ar sail adborth a gawn gan ddefnyddwyr.

Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: "Rydym yn byw mewn oes ddigidol lle mae mwy a mwy o bobl yn cael eu gwybodaeth a'u newyddion drwy ddulliau digidol.

"Rwyf am i bawb yng Nghymru ymwneud â gwaith y Cynulliad Cenedlaethol, a rhaid i'r deddfau a wnawn adlewyrchu gobeithion a dyheadau cymunedau ar draws Cymru.

"Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni gyfathrebu drwy'r sianeli a'r dyfeisiau y mae llawer ohonom bellach yn eu defnyddio o ddydd i ddydd, ac rwy'n gobeithio y bydd rhagor o bobl yn ymgysylltu â ni yn sgîl ein ap newydd."

Dywedodd Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth:

"Gyda rhagor o'n defnyddwyr nag erioed o'r blaen yn edrych ar ein gwaith drwy ddefnyddio dyfeisiau symudol, gan gynnwys bron i 60 y cant o fideos a wyliwyd ar ein sianel YouTube, mae creu'r ap newydd hwn yn ddilyniant naturiol yn ein gweithgarwch ymgysylltu ar-lein.

"Rydym wedi ymrwymo i wella'r modd y caiff ein cynnwys ei gysylltu a'i gyflwyno drwy ein cyfryngau ar-lein, a gobeithio y bydd yr ap yn ei gwneud yn haws i bobl ddod i wybod am y Cynulliad Cenedlaethol gan ddefnyddio eu dewis gyfrwng."

Gallwch lwytho'r ap yma:

  • Android: Cymraeg | Saesneg
  • Ffôn Windows: Cymraeg | Saesneg
  • Apple: gallwch lwytho'r ap drwy roi 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru' yn y blwch chwilio App Store