Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn symud ymlaen â’r newidiadau i’r cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 02/11/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn symud ymlaen â’r newidiadau i’r cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad

2 Tachwedd 2009

Daw cyfnod cyntaf y broses o roi argymhellion yr adolygiad “Yn Gywir i Gymru” o system cyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad i rym heddiw (2 Tachwedd).

Roedd yr adroddiad, sef canlyniad ymchwiliad a gynhaliwyd dros 10 mis gan banel annibynnol, yn argymell cyfanswm o 108 o newidiadau i’r system bresennol o roi cymorth ariannol i Aelodau.

Ar 8 Gorffennaf, cytunodd Comisiwn y Cynulliad i weithredu’r holl argymhellion yn llawn er mwyn cael system gwbl agored a thryloyw o roi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad.

“Bwriad Comisiwn y Cynulliad pan sefydlodd y panel annibynnol yn 2008 oedd dangos ein hymrwymiad i dryloywder i’r cyhoedd yng Nghymru,” dywedodd y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

“Gwnaethom yr ymrwymiad hwn gryn amser cyn i’r cynnwrf ynglyn â threuliau Aelodau Seneddol ddechrau yn San Steffan.

“Mae argymhellion y panel yn cynnig cyfle unigryw i gryfhau’r cytundeb rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a phobl Cymru o ran ei rôl o wneud deddfwriaeth a chraffu ar waith y Llywodraeth.

“Rydym wedi gallu arwain ar y mater hwn, gan bellhau ein hunain o’r helynt yn San Steffan, yn bennaf oherwydd ymateb cyflym a chefnogol Aelodau’r Cynulliad i’r datganiad a wnes iddynt ym mis Gorffennaf.”

Bydd 28 o argymhellion y panel annibynnol yn cael eu gweithredu yn ystod y cyfnod cyntaf (a restrir isod). Bydd yr ail gyfnod yn cael ei weithredu erbyn mis Mawrth 2010. Bydd y trydydd cyfnod yn cael ei weithredu cyn etholiad nesaf y Cynulliad ym mis Mai 2011, a bydd y cyfnod olaf yn cael ei gyflwyno fel ei fod yn weithredol yn ystod y pedwerydd Cynulliad.

Cyfnod 1 – I’w weithredu erbyn 2 Tachwedd 2009

Treulai Aelodau’r Cynulliad

  • Dylai’r taliad safonol o £30.65 a hawlir gan Aelodau’r Cynulliad wrth aros dros nos o’u prif gartref gael ei diddymu cyn gynted â phosibl.

  • O hyn ymlaen ni ddylai Aelodau’r Cynulliad hawlio am ddodrefn ac ati ar gyfer eu hail gartrefi.

  • Dylai Aelodau’r Cynulliad allu hawlio am ad-daliadau am dreuliau rhesymol a ysgwyddwyd wrth gyflawni busnes y Cynulliad.

  • Dylai fod yn ofynnol i Aelodau Cynulliad sy’n hawlio treuliau am weithgaredd sy’n gysylltiedig â’u dyletswyddau fel Aelodau Cynulliad ddarparu’r dystiolaeth ddogfennol briodol ac eglurhad, os oes angen, i ddangos eu bod wedi ysgwyddo’r gost a bod y gweithgaredd wedi’i gyflawni.

  • Dylai Aelodau Cynulliad cymwys allu hawlio, lle y bo’n briodol, ad-daliad am filiau cyfleustodau, treth y cyngor, band eang, yswiriant a thrwydded deledu ar gyfer yr ail gartref a ddarperir gan y Cynulliad.

Cyflogau Aelodau’r Cynulliad

  • Ni ddylai fod cysylltiad awtomatig uniongyrchol mwyach rhwng cyflogau Aelodau Cynulliad a chyflogau Aelodau Seneddol.

  • Mae’r cyflog sylfaenol cyfredol o £53,108 i Aelodau’r Cynulliad yn briodol, a dylid ei godi hyd at fis Ebrill 2010, yn unol â chwyddiant. (fel ar gyfer staff cymorth yr Aelodau).

  • Y lefel sylfaenol a ddefnyddir ar gyfer uwchraddio cyflogau yn y dyfodol fydd y cyflog ar 1 Mehefin 2009 (£53,108).

  • Dylai cadeiryddion pwyllgorau dderbyn tâl atodol swydd-ddeiliad o naill ai £12,000 y flwyddyn neu £8,000 y flwyddyn. Dylai Comisiwn y Cynulliad benderfynu pa dâl atodol sy’n berthnasol i bob cadeirydd pwyllgor, a hwnnw’n berthnasol am weddill tymor y Cynulliad. Dylai deiliaid swyddi ychwanegol sydd ar hyn o bryd â hawl i’r un tâl atodol â chadeiryddion pwyllgorau ddal i fod yn gyfartal â hwy.

  • Yn dilyn etholiad nesaf y Cynulliad, dylai deiliaid swyddi ychwanegol dderbyn taliadau atodol ar ben eu cyflog sylfaenol yn ôl yr un gyfran â’r un a fydd yn berthnasol yn dilyn yr addasiadau a ddisgrifir yn argymhelliad 13. Bydd y cyfrannau hyn yn cael eu hadolygu gan y Corff Adolygu Annibynnol o bryd i’w gilydd.

Costau swyddfa

  • Dylai’r Lwfans Costau Swyddfa i Aelodau’r Cynulliad barhau ar y lefel bresennol ar gyfer costau swyddfa a hysbysebu cymorthfeydd.

  • Dylai’r ddarpariaeth costau swyddfa leol alluogi Aelodau Cynulliad i gael ad-daliad am yr holl gostau rhesymol…yn ymwneud â rhedeg swyddfa leol ac ymwneud ag etholwyr. Dylid cyflwyno derbynebau neu brawf o’r gwariant gyda phob hawliad, a dylai’r trefniadau misol newydd ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am dreuliau Aelodau barhau.

  • Gyda chymeradwyaeth Tîm Cymorth Busnes yr Aelodau, gall Aelodau’r Cynulliad hawlio darpariaeth Lwfans Costau Swyddfa ychwanegol o ran y swm dros £2,000 mewn unrhyw flwyddyn ariannol a gaiff ei wario yn eu swyddfeydd lleol ar ddiogelwch o bob math a mynediad i bobl anabl; a chaiff y swm gormodol hwn ei ad-dalu yn ychwanegol at y Lwfans Costau Swyddfa sylfaenol.

  • Dylai Aelodau’r Cynulliad barhau i gyflogi eu staff eu hunain.

  • Dylai gwasanaethau cyflogres y Cynulliad Cenedlaethol barhau i weinyddu costau cyflogau’r holl staff, gan nodi ar ran pa Aelodau y gwneir hynny.

  • Dylai Comisiwn y Cynulliad barhau i dalu cyfraniadau yswiriant cenedlaethol y cyflogwr, a hynny allan o lwfans cyflogau staff Aelodau’r Cynulliad. Dylid nodi ar ran pa Aelodau y gwneir hynny.

  • Dylai uchafswm cyfraniadau pensiwn y cyflogwr barhau i fod yn 10 y cant o’r cyflog blynyddol gwirioneddol.

  • Mewn achosion dilys, dylid caniatáu defnyddio’r gronfa ganolog i dalu am gostau staff llanw dros dro. Dim ond ar gyfer swyddi parhaol y dylid gwneud taliadau am staff llanw o’r fath. Ni ddylid caniatáu taliadau am staff llanw os yw’r swydd yn un dros dro.

  • Yn ogystal â’r cyfrifiaduron a’r offer TGCh arall a ddarperir yn y swyddfa ym Mae Caerdydd a’r swyddfa yn yr etholaeth, dylai pob Aelod Cynulliad barhau i gael un ddyfais BlackBerry (neu ddyfais debyg), un ffôn symudol, un gliniadur, un llinell dir a chysylltiad â band eang.

  • Dylai’r holl offer TGCh a roddir i Aelodau’r Cynulliad barhau i gael eu cofnodi ar gofrestr asedau a dylid eu dychwelyd i Gomisiwn y Cynulliad pan fo Aelod yn gadael.

Costau teithio

  • Dylai cyfraddau teithio fesul milltir barhau i fod yn seiliedig ar y rhai a osodir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a dylent fod yn berthnasol i Aelodau’r Cynulliad a’u staff.

  • Dylai Aelodau’r Cynulliad barhau i fod yn gymwys i hawlio costau teithio rhwng eu cartref, y Cynulliad a swyddfeydd lleol.

  • Dylai’r trefniadau teithio presennol ar gyfer partneriaid a phlant Aelodau’r Cynulliad, fel y nodir yn Adran 6 o Benderfyniad Cyflogau a Lwfansau 2009, aros fel y maent.

  • Dylai Aelodau’r Cynulliad a’u staff roi’r gorau i logi ceir ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.

  • Dylai teithiau y tu allan i’r DU barhau i gael eu cymeradwyo ymlaen llaw gan Dîm Cymorth Busnes yr Aelodau (ac eithrio teithiau i Frwsel a Strasbourg).

  • Dylai Comisiwn y Cynulliad adolygu’r polisi presennol ar gyfer trefniadau parcio yn swyddfeydd y Cynulliad ym Mae Caerdydd o ran Aelodau’r Cynulliad, eu staff a staff y Cynulliad – o ran tegwch y ddarpariaeth, polisi cynaliadwyedd ac effaith ar adnoddau.

  • Y Pwyllgor Archwilio ddylai fod yr enw newydd ar y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

  • Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (Cymru) ddylai fod yr enw newydd ar y Pwyllgor Archwilio presennol.( Mi fydd y newid yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar Tachwedd 4)