Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig

Cyhoeddwyd 09/11/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig

9 November 2009

Archebwch le i wylio trafodion yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig a gynhelir yn gyhoeddus ar 23 Tachwedd yn Neuadd Goffa Tregaron rhwng 14.00 a 16.00.



Bydd y cyfarfod yn rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i ddyfodol ucheldiroedd yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor wedi gwahodd yr Undebau Amaethwyr, y Parciau Cenedlaethol a Chymdeithas Mynyddoedd y Cambria i drafod yr hyn a gaiff ei ystyried ganddynt yn heriau ac yn gyfleoedd i ucheldiroedd yng Nghymru.

I archebu eich sedd:
- ffoniwch 0845 010 5500;
- rhi testun 0845 010 5678
-e-bostiwch archebu@cymru.gsi.gov.uk
- ysgrifennwch at: Gwasanaeth Archebu’r Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc y Tywysog, Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy LL29 8PL.

Bydd rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad hwn ar gael yn Yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig