Cynulliad Cenedlaethol i graffu ar gyfiawnder am y tro cyntaf erioed

Cyhoeddwyd 29/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/01/2020

​Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried materion cyfiawnder am y tro cyntaf. Bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn craffu ar ddiwygio cyfiawnder ar ran pobl Cymru a bydd y pwyllgor yn newid ei enw i adlewyrchu'r rôl hon.

Heddiw, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol i newid cylch gwaith y Pwyllgor; felly, o hyn ymlaen ei enw fydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Mae cylch gwaith y Pwyllgor yn ehangu yn sgil argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Gorchwyl y Comisiwn annibynnol ar Gyfiawnder oedd adolygu, am y tro cyntaf ers dros 200 mlynedd, sut y mae'r system gyfiawnder yn cael ei gweithredu yng Nghymru a chreu gweledigaeth hirdymor i ddyfodol y system honno. Argymhellodd nifer o ddiwygiadau, gan gynnwys galw am i'r Cynulliad chwarae rôl fwy rhagweithiol o ran craffu ar weithrediad y system gyfiawnder gyfredol ac unrhyw ddiwygiadau arfaethedig iddi. Argymhellodd y Comisiwn hefyd y dylid sefydlu Pwyllgor Cyfiawnder.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol sy'n dangos ymrwymiad y Senedd i weithredu argymhellion Adroddiad y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru.

"Mae'r argymhellion yn glir y dylai'r Senedd chwarae rhan fwy rhagweithiol ym materion cyfiawnder. Rydym yn paratoi'r ffordd ar gyfer hynny drwy ehangu cylch gwaith y Pwyllgor.

"Cylch gwaith diwygiedig y pwyllgor proffil uchel hwn – sef y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fel y'i gelwir bellach – fydd craffu ar ddiwygio cyfiawnder, a hynny am y tro cyntaf yn hanes y Cynulliad.

"Edrychaf ymlaen at weld ffrwyth y gwaith pwysig hwn ac at ddilyn cyfraniad y pwyllgor i'r ddadl gyhoeddus ar ddyfodol cyfiawnder yng Nghymru."