Cynulliad Cenedlaethol wedi'i enwi yn rhestr The Times o'r 50 Cyflogwr Gorau ar gyfer Menywod yn y DU
3 Ebrill 2014
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i enwi yn rhestr The Times o'r 50 Cyflogwr Gorau ar gyfer Menywod yn y DU.
Mae'r wobr fawreddog, y mae The Times yn ei chynnig mewn partneriaeth â'r grwp ymgyrch rhyw Opportunity Now, yn cydnabod y gwaith a wneir gan sefydliadau sy'n helpu menywod i barhau yn eu gyrfaoedd tra'n cynnal ymrwymiadau teulu a gofal.
Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: "Hoffwn longyfarch holl staff y Cynulliad sydd wedi helpu i wneud y wobr hon yn bosibl.
"Mae menywod yn cyfrif am dros hanner y boblogaeth ac felly mae angen gweithlu cytbwys arnom i adlewyrchu hynny.
"Mae gweithlu mwy cytbwys yn arwain at syniadau a sylwadau ehangach i fwydo i'r gweithle ac, yn fy marn i, mae'n arwain at ganlyniadau gwell.
"Mae gan y Cynulliad record i ymfalchïo ynddi wrth sicrhau bod gan bob aelod o staff y cyfle i gael cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith ac mae'n haeddu'r gydnabyddiaeth hon."
Mae'r Cynulliad wedi'i gydnabod yn benodol am y ffordd y mae'n darparu amrywiaeth o opsiynau gweithio hyblyg.
Maent yn cynnwys gweithio oriau hyblyg, gweithio'n ystod y tymor yn unig, gweithio rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig, gweithio llai o oriau a gweithio gartref.
Mae'r Cynulliad hefyd yn darparu cymorth rhagorol i fenywod sydd â chyfrifoldebau fel rhiant neu ofalwr, gan gynnwys:
absenoldeb mamolaeth hael (cyflog llawn am 26 wythnos, yn ogystal â 13 wythnos statudol). Rydym hefyd yn cynnig diwrnodau Cadw Mewn Cysylltiad â thâl ar gyfer menywod sydd ar absenoldeb mamolaeth;
absenoldeb tadolaeth / cyd-riant (cyflog llawn am 3 wythnos, gan gynnwys gwyliau â thâl i fynd i ddosbarthiadau cynenedigol);
absenoldeb arbennig â thâl ar gyfer argyfyngau domestig neu ofalu;
talebau gofal plant;
lleoedd wedi'u neilltuo mewn meithrinfeydd lleol; ac
absenoldeb rhieni.
Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb: "Rwy'n falch o record y Cynulliad yn y maes hwn.
"Yn y 21ain ganrif dylai menywod allu magu plant yn ogystal â chael gyrfa, ac mae'r rhaglenni sydd wedi'u rhoi ar waith gan y Cynulliad yn galluogi ei staff benywaidd i wneud hynny."
Mae gan y Cynulliad hefyd rwydweithiau staff gweithredol (gan gynnwys rhwydwaith menywod) i ddarparu cymorth bugeiliol ychwanegol i staff, hyrwyddo cydraddoldeb ac amgylchedd gweithio cynhwysol a chael dylanwad ar gyfeiriad strategol a gweithredol y sefydliad.
Rydym wrthi'n sefydlu rhwydwaith staff i rieni a gofalwyr i ddarparu cymorth ychwanegol i bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu a'r rheini sy'n bwriadu cymryd absenoldeb rhieni, sydd ar absenoldeb rhieni neu sydd wedi dychwelyd o absenoldeb rhieni.
Ac yn olaf, mae gan y Cynulliad gyfleoedd dysgu a datblygu rhagorol fel y rhaglen datblygu rheolwyr, sy'n darparu pecyn deniadol i staff.
Dywedodd Kathryn Nawrockyi, Cyfarwyddwr Opportunity Now: “Llongyfarchiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am gael ei gynnwys yn rhestr y Times o’r 50 cyflogwr gorau ar gyfer menywod yn 2014.
“Roedd y safon yn eithriadol o uchel unwaith eto, a gall y Cynulliad fod yn hynod falch o’i lwyddiant. Mae’n enghraifft wych o arweinyddiaeth gref ac yn dangos y gellir achosi newid go-iawn a chynaliadwy i fenywod, i sefydliadau ac i’r gymdeithas gyfan trwy wneud cydraddoleb rhwng y rhywiau yn ganolog i fusnes.
“Gobeithiaf y bydd cyflogwyr eraill yn cael eu hysbrydoli gan ei waith ac yn ei ddefnyddio i sicrhau hyd yn oed mwy o gynnydd i fenywod yn eu gweithlu.”