Cynulliad Cenedlaethol yn Penodi Pwyllgor i Graffu ar Offerynnau Statudol

Cyhoeddwyd 15/06/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad Cenedlaethol yn Penodi Pwyllgor i Graffu ar Offerynnau Statudol

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi penodi Pwyllgor ar Offerynnau Statudol, wedi’i gadeirio gan David Melding AC, y Dirprwy Lywydd, i fod yn gyfrifol am graffu ar Offerynnau Statudol tan y gellir sefydlu strwythur pwyllgorau’r Cynulliad yn llawn.

Cyfreithiau yw Offerynnau Statudol yng Nghymru a wneir gan Lywodraeth Cymru o dan bwerau a roddwyd i Weinidogion mewn Mesurau Cynulliad a Deddfau Seneddol.

Maent yn aml yn gyfreithiau arwyddocaol ynddynt eu hunain. Cyflwynwyd y cynllun difa moch daear yn y gorllewin gan Offeryn Statudol ac mae Offerynnau Statudol diweddar eraill wedi diwygio agweddau ar ofal cymdeithasol yng Nghymru, wedi newid cyfreithiau labelu bwyd, wedi gweithredu agweddau ar Gyfarwyddebau yr Undeb Ewropeaidd ac wedi pennu safonau cymwysterau newydd ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal i oedolion.

Er y gellir trafod Offerynnau Statudol yn y Cynulliad, daw’r rhan fwyaf ohonynt i rym ar ddyddiad a bennir gan Weinidogion.

Bydd gan y pwyllgor newydd y dasg o archwilio bob Offeryn Statudol mae’r Llywodraeth yn ei gyflwyno a bydd wedyn yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad os bydd unrhyw offeryn yn achosi pryder neu o bwysigrwydd penodol i’r cyhoedd, neu o bwysigrwydd gwleidyddol.

Dywedodd Cadeirydd y pwyllgor newydd, y Dirprwy Lywydd David Melding AC: “Mae Offerynnau Statudol yn effeithio ar sawl maes o fywyd cyhoeddus a masnachol yng Nghymru.

“Maent yn gallu pennu cyfreithiau ynglyn â sut y caiff cynghorau lleol a’r gwasanaeth iechyd eu trefnu, diogelwch a labelu bwyd, y system addysg a’r modd y caiff ei ariannu, yr amgylchedd naturiol a’r amgylchedd sydd wedi ei adeiladu, grantiau, taliadau a threthi lleol ac amryw o faterion eraill.

“Mae’n hynod bwysig eu bod yn cael eu craffu arnynt yn effeithiol a bod unrhyw bryderon yn cael dwyn i sylw’r Llywodraeth yn gyflym, ac, os bydd angen, i sylw’r Cynulliad cyfan. Bydd y pwyllgor newydd yn parhau gyda’r gwaith pwysig hwn tra bod y gwaith o lunio strwythur pwyllgorau ar gyfer y pedwerydd Cynulliad yn mynd yn ei flaen.”

Nodyn:-

  • Aelodau eraill y pwyllgor yw Julie James AC (Llafur), Simon Thomas AC (Plaid Cymru) a Peter Black AC (Democratiaid Rhyddfrydol).

  • Cylch gorchwyl ffurfiol y pwyllgor yw bod yn bwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 ac ystyried unrhyw fater deddfwriaethol arall, ar wahân i’r rhai sy’n ofynnol gan Reol Sefydlog 26, a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.