Cynulliad Dinasyddion cyntaf Cymru yn adrodd yn ôl

Cyhoeddwyd 27/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/10/2019

​“Rydym ni’n gweld llawer o ddadlau ac agweddau negyddol mewn gwleidyddiaeth ar y newyddion ond roedd y Cynulliad Dinasyddion yn gwbl wahanol.”

“Pan ddaeth llythyr drwy’r drws yn fy ngwahodd i gymryd rhan yn y Cynulliad Dinasyddion roedd gen i ddiddordeb mawr a ‘doeddwn ni’n gwybod beth i’w ddisgwyl – ond ar ôl mynd trwy’r broses roeddwn i'n gyffrous ac yn teimlo’n bositif iawn. Yn aml, gallwch chi deimlo nad ydych yn rhan o'r broses wleidyddol – ond roedd yn braf cael fy nghynnwys a bod rhywun yn gwrando arnaf. Roedd y syniad o fynd â syniadau at drawstoriad o’r boblogaeth i’w trafod yn apelio’n arw – roeddwn i'n teimlo bod gan y system ddiddordeb yn ei dinasyddion” - Mark Curry, aelod o’r Cynulliad Dinasyddion.

Mewn digwyddiad yn y Senedd yn nodi 20fed pen-blwydd datganoli, mae llais Cynulliad Dinasyddion cyntaf Cymru yn cael ei glywed. Ar ddydd Sul Medi 29, fel rhan o ŵyl GWLAD, fe fydd canfyddiadau'r adroddiad yn cael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i'w hystyried a'u gweithredu.

Ynglŷn â'r Cynulliad Dinasyddion 

Ym mis Gorffennaf eleni, daeth 60 o bobl ynghyd o bob cwr o'r wlad yn gynrychioladol o  boblogaeth Cymru, yn Neuadd Gregynog yn y Drenewydd i ffurfio Cynulliad Dinasyddion – y cyntaf i Gymru. Aethant i’r afael â sut y gall pobl yng Nghymru lywio eu dyfodol drwy waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

I sicrhau bod pobl Cymru yn cael eu cynrychioli yn y modd gorau yn y Cynulliad Dinasyddion, aeth y trefnwyr i drafferth fawr i ddewis pobl a oedd yn adlewyrchu cyfansoddiad y cyhoedd yng Nghymru yn gywir. Roedd hyn yn cynnwys oedran; lefel addysg; ethnigrwydd, rhyw, gwasgariad daearyddol, sgiliau Cymraeg a phleidleiswyr a’r rhai na phleidleisiodd yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.

Fe wnaeth Cynulliad Dinasyddion gyfarfod ar benwythnos 19-21 Gorffennaf ac, yn dilyn dau ddiwrnod o drafod a phwyso a mesur, lluniwyd adroddiad manwl i ddangos eu canfyddiadau a chyflwyno eu hargymhellion.

Adrodd yn ôl

Wedi trafod, fe bleidleisiodd y Cynulliad Dinasyddion ar yr heriau allweddol sy'n wynebu Cymru yn eu barn nhw – roedd y rhain yn cynnwys gwasanaethau iechyd, gwasanaethau iechyd meddwl ac addysg. Fe wnaethant bleidleisio hefyd ar feysydd roeddent yn credu eu bod yn gweithio'n dda yng Nghymru gan gynnwys gwaith cynnal a chadw ar adeiladau hanesyddol a’r gallu i fynd iddynt; cynnyrch a bwyd lleol o ansawdd uchel; a diogelu'r amgylchedd gyda chynnydd da o ran ailgylchu.

Rhan allweddol o waith y Cynulliad Dinasyddion oedd ystyried sut y mae pobl yn ymgysylltu â'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau yn y Cynulliad Cenedlaethol. Dros y penwythnos cafodd y cyfranogwyr wybod am ffyrdd y gall pobl ddylanwadu ar waith y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd cyn trafod ffyrdd y gall pobl gymryd rhan mewn ymchwiliadau ac ymgynghoriadau gan bwyllgorau’r Cynulliad; ffyrdd y gall aelodau'r cyhoedd fod yn rhan o holi'r llywodraeth; sut y gall pobl ddweud eu dweud ynglŷn â sut y mae'r gyllideb yng Nghymru yn cael ei chymeradwyo a gosod yr agenda wleidyddol ehangach. Archwiliodd yr aelodau syniadau ar gyfer ffyrdd newydd y gallai'r Cynulliad Cenedlaethol eu defnyddio i gynnwys dinasyddion.

Cytunodd mwyafrif llethol y cyfranogwyr fod defnyddio cynulliadau dinasyddion i fynd i'r afael â materion yn y dyfodol yn syniad da ac y dylid ei ddatblygu ymhellach. Fodd bynnag, nid oedd y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu hystyried yn ateb i gynnwys y cyhoedd gan nad oedd mwyafrif y cyfranogwyr yn cefnogi eu defnyddio i holi’r llywodraeth, gan honni na allai fod yn sampl gynrychioliadol o bobl felly gallai fod yn rhagfarnllyd.

Roedd aelodau’r Cynulliad Dinasyddion yn glir y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud mwy i ennyn diddordeb pobl ledled y wlad a chroesawyd y defnydd o ffyrdd arloesol fel cynulliadau dinasyddion a llwyfannau ar-lein.

Mae adroddiad y Cynulliad Dinasyddion yn rhan allweddol o raglen ddatganoli 20 mlynedd y Cynulliad Cenedlaethol sy'n ystyried cyfeiriad democratiaeth yng Nghymru yn y dyfodol.

Dywedodd a Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n agor y digwyddiad lansio adroddiad y Cynulliad Dinasyddion:

“Rwy’n falch o waith ein Cynulliad Dinasyddion cyntaf – roedd hwn yn ddigwyddiad pwysig ac yn garreg filltir ar ein taith ddatganoli.

“Mae ymgysylltu â’r cyhoedd wrth wraidd gwaith y Cynulliad Cenedlaethol. Rydym ni eisiau i bobl ym mhob rhan o Gymru gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd trwy rannu eu barn a'u syniadau â ni.

“Er mwyn i ddemocratiaeth ffynnu a gwella, mae’n rhaid i bawb gymryd rhan. Mae’r Cynulliad Dinasyddion yn ffordd arloesol o sicrhau bod ein gwaith yn unol â blaenoriaethau pobl ledled y wlad.

“Mae'r adborth yr ydym wedi'i gael gan y cyfranogwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol ac yn well nag y gallem ni erioed fod wedi ei ddymuno. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu hamser a'u hymdrechion ac am ddangos i ni fod hon yn ffordd werthfawr ac effeithiol o ymgysylltu â'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli."

Dywedodd Mark Curry, Aelod o’r Cynulliad Dinasyddion, sydd wedi ymddeol ac sy’n byw yn Edern ar Benrhyn Llŷn:

“Yr hyn wnaeth fy nharo i'n fawr oedd ansawdd y ddadl a’r farn oedd yn cael ei mynegu gan bobl o bob cefndir. Weithiau ry’ ni’n gweld llawer o ddadlau ac agweddau negyddol mewn gwleidyddiaeth ar y newyddion ond roedd y Cynulliad Dinasyddion yn gwbl wahanol. Roedd pobl yn gwrtais ac wirioneddol yn gwrando ar ei gilydd, roedd yn wych cael trafodaeth gytbwys a chlywed barn eraill a chael cyfle i roi fy un i.

“Cafodd llawer o bynciau gwahanol eu codi dros benwythnos y Cynulliad Dinasyddion, fe wnes i godi mater seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru a darparu gwasanaethau rheilffordd ar gyfer cymunedau gwledig fel fy un i. Rwy'n credu y byddai'r broses hon yn ffordd ddefnyddiol iawn o ddelio gyda rhai o'r materion y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Poppy Jones, Aelod o’r Cynulliad Dinasyddion a myfyriwr 6ed dosbarth o Gaerdydd:

“Roedd y Cynulliad Dinasyddion yn syniad gwych. Dim ond pan fyddan nhw’n mynd i bleidleisio y bydd rhai pobl yn ymgysylltu â'r broses ond mae hon yn ffordd effeithiol o gyrraedd pobl na fydden nhw fel arfer yn rhan o'r broses wleidyddol. Mae'n ffordd wych o bontio'r bwlch rhwng pobl a gwleidyddiaeth.

“Fe ddysgais i lawer am y ffordd y mae Cynulliad Cymru yn gweithio a helpodd hynny ni i wneud penderfyniadau cytbwys.

“Ar y penwythnos gofynnwyd inni archwilio’r ffordd orau o holi llywodraeth ac un o’r awgrymiadau oedd defnyddio mwy o’r cyfryngau cymdeithasol. Rwy’ o’r farn y gallai defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i wneud hynny fod yn wrthgynhyrchiol. Gallai lleisiau’r rhai hynny sydd â safbwyntiau mwy cymedrol neu nad ydynt wedi penderfynu gael eu colli neu eu boddi yn hawdd gan y rhai hynny â safbwyntiau mwy pendant neu fwy eithafol.

“Yn anffodus, mae yna ddiffyg atebolrwydd ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, sy’n eu gadael yn agored i gamddefnydd posibl. Os ydym ni’n defnyddio llwyfannau neu fforymau ar-lein i sicrhau bod y cyhoedd yn ymgysylltu â'r Cynulliad Cenedlaethol, mae’n rhaid inni hefyd fod yn ofalus iawn i beidio ag eithrio’r rheini nad ydyn nhw’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd, neu'r rhai sy'n methu â defnyddio technoleg. Rwy’n credu bod yn rhaid i unrhyw fforwm ar-lein fod yn destun cymedroli – sydd hefyd yn codi mater sensoriaeth.

“Roedd yn brofiad gwych a gobeithio y bydd gan bawb fwy o lais yn y dyfodol.”


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Y Cynulliad Dinasyddion, Adroddiad llawn Gorffennaf 2019 (PDF, 5.30 MB)