Ydych chi eisiau gweld faint mae’r Cynulliad wedi ei gyflawni dros y flwyddyn diwethaf?
18 Gorffennaf 2013
Cyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad ei Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon yr wythnos hon. Lluniwyd graffeg gwybodaeth i gyd-fynd â’r adroddiad ac i ddangos rhai o gerrig milltir allweddol y Cynulliad dros y flwyddyn diwethaf. Mae’n cynnwys rhai ffeithiau diddorol nad oes llawer yn gwybod amdanynt hefyd.
Comisiwn y Cynulliad yw’r corff sy’n gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau yn cael eu darparu i’r Cynulliad. Mae Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod o bleidiau gwleidyddol gwahanol.
Mae modd dod o hyd i’r adroddiad yma: Adroddiad Blynyddol 2012-2013
Rhagor o wybodaeth am Gomisiwn y Cynulliad
Cynhaliwyd 263 cyfarfodydd pwyllgor
Cynhaliwyd 49 o ymchwiliadau gan bwyllgorau’r Cynulliad (archwiliad i destun neu faes arbennig yw ymchwiliad, er mwyn gweld a ellid gwneud unrhyw welliannau)
Ymwelodd 87,424 o bobl â’r Senedd i weld y Cynulliad ar waith