Cynulliad y Cymunedau i ymweld â Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion

Cyhoeddwyd 09/06/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad y Cymunedau i ymweld â Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion

9 Mehefin 2011

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lansio un o brif themâu’r Cynulliad newydd, sef Cynulliad y Cymunedau, yn Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion ddydd Sadwrn (11 Mehefin).

Bydd staff ar gael i holi ymwelwyr ynghylch pa faterion ymhlith meysydd datganoledig y Cynulliad sy’n bwysig iddynt.

Cynhelir gweithdai a gweithgareddau eraill er mwyn rhoi gwybodaeth i bobl am eu Haelodau Cynulliad newydd ac er mwyn dangos iddynt sut i ddylanwadu ar yr hyn y mae’r Cynulliad yn ei wneud.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae’r bleidlais gadarnhaol a gafwyd yn y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Mawrth yn golygu bod mwy o benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pobl Cymru yn cael eu gwneud yng Nghymru.

“Mae’n fwy pwysig nag erioed, felly, bod pobl Cymru yn cael cyfle i ddeall y penderfyniadau hyn a lleisio barn arnynt.”

“Dyna pam y gwnaed Cynulliad y Cymunedau yn un o brif themâu'r Cynulliad newydd. Hoffwn annog unrhyw un sy’n ymweld â Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion i alw heibio er mwyn dysgu mwy am bwy sy’n eu cynrychioli a sut y gallant gymryd rhan.”

Ceir rhagor o wybodaeth am y lleoliadau eraill y bydd bws y Cynulliad Cenedlaethol yn ymweld â hwy yma

Yn ogystal, gallwch ganfod lle mae’r bws wedi bod, pwy fu’n siarad â staff y Cynulliad ar y bws a’r hyn a ddywedwyd ganddynt ar flog y bws