#Cynulliad15 - Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn 15 mlwydd oed

Cyhoeddwyd 12/05/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

#Cynulliad15 - Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn 15 mlwydd oed

12 Mai 2014

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi ei ben blwydd yn 15 heddiw (12 Mai).

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r Cynulliad wedi esblygu o fod yn gorff a etholir yn ddemocrataidd â phwerau i basio deddfwriaeth eilaidd i fod yn gorff deddfu llawn.

Yn ogystal, bellach, caiff y Cynulliad ei ystyried yn sefydliad enghreifftiol o ran arfer seneddol, gyda chynrychiolwyr o wledydd mor bell â Sri Lanka, Trinidad a Tobago a Chanada yn ymweld â ni i edrych ar sut rydym yn craffu ar ddeddfwriaeth a pholisi, a sut rydym yn ymgysylltu â'r bobl rydym yn eu gwasanaethu yn ein gwaith.

Fe ddaeth y cynrychiolwyr hynny i ddysgu sut mae'r Cynulliad yn defnyddio technoleg yn ei drafodion, yn darparu cymorth i'n Haelodau Cynulliad, sut mae’n strwythuro ein pwyllgorau a sut mae ein system ddeisebau'n gweithio.

Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, "Maen nhw'n dweud bod pobl ifanc yn tyfu i fyny yn gyflym iawn y dyddiau hyn.

"Yn ei 15 mlynedd gyntaf, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi aeddfedu i fod yn gorff deddfu llawn.

"Yn gynyddol, rydym yn cael ein gweld fel sefydliad enghreifftiol yng nghyd-destun democratiaeth fodern, gyda llawer o ddeddfwriaethau ledled y byd yn ymweld â'r Cynulliad i ddysgu am sut rydym ni’n gweithio.

"Mae cyflymder newid cyfansoddiadol yng Nghymru, a gweddill y DU, wedi bod yn ddramatig, ac mae'r sefydliad heddiw yn wahanol iawn i'r un a ragwelwyd gan Senedd y DU mor ddiweddar â 2006.  Pymtheg mlynedd ers cyfarfod cyntaf y Cynulliad, mae gan y Cynulliad gefnogaeth helaeth y bobl y mae'n eu cynrychioli."

Ond ychwanegodd y Llywydd fod angen rhagor o eglurder yn y setliad cyfansoddiadol i'r Cynulliad allu aeddfedu ymhellach, gan ailadrodd ei sylwadau i Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk), lle bu iddi alw am newidiadau i sicrhau:

  • bod gan y sefydliad gapastiti digonol i gyflawni ei swyddogaethau;

  • bod terfynau pwerau'r Cynulliad yn glir ac yn ddealladwy; a

  • bod gan y Cynulliad yr ymreolaeth fwyaf posibl i weithredu ar faterion sy'n effeithio ar Gymru.

Ychwanegodd y Fonesig Rosemary, "O ystyried pwysau'r cyfrifoldeb sydd ar ysgwyddau'r sefydliad, a'r pwysau gwaith anochel y mae Aelodau'n ei wynebu, nid oes gennyf amheuaeth y dylid cynyddu nifer Aelodau’r Cynulliad o 60 i 80.

"Mae angen eglurder ynghylch dyfodol y Deyrnas Unedig - a dylai rhan ganolog o hynny ymwneud â’r hyn sydd orau i bobl Cymru, gan gydnabod bod y mwyafrif helaeth o bobl Cymru o'r farn y dylid cael deddfwrfa ddatganoledig.

"Rwyf o'r farn mai'r ffordd orau o sicrhau'r eglurder hwn yw sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol i'r DU, â'r nod o ddatblygu fframwaith cyfansoddiadol cyson rhwng gwahanol sefydliadau deddfwriaethol y DU."

I nodi'r pen blwydd hwn, mae'r Cynulliad yn rhoi sylw i rai o'r adegau allweddol yn ystod y 15 mlynedd diwethaf ar ei gyfrif Twitter @Cynulliadcymru, gan gynnwys:

  • 1999 - Daeth 60 Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Gyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad ar y diwrnod yma yn 1999;

  • 2003 – Cynulliad yn ethol yr un nifer o fenywod a dynion i’r Cynulliad;

  • 2006 - Deddf Llywodraeth Cymru: pwerau deddfu am y tro cyntaf;

  • 2007- Mesur cyntaf y Cynulliad;

  • 2011- Pleidlais Ie yn y refferendwm ar bwerau ychwanegol i’r Cynulliad Cenedlaethol;

  • 2012 - y Cynulliad yn pasio ei Ddeddf gyntaf erioed;

  • 2012 - Cydnabod y Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol y Cynulliad drwy’r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol.

Rydym hefyd wedi gofyn i Aelodau gofnodi eu huchafbwyntiau eu hunain o'r 15 mlynedd diwethaf, ac mae’r rhain i’w gweld yma.