Cywirdeb, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder – ail adroddiad blynyddol y Bwrdd Taliadau

Cyhoeddwyd 12/07/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cywirdeb, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder – ail adroddiad blynyddol y Bwrdd Taliadau

12 Gorffennaf 2012

Ym mis Gorffennaf 2010 sefydlwyd Bwrdd Taliadau Annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dilyn Cymeradwyaeth Frenhinol deddfwriaeth.

Ei nod yw sefydlu system o roi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad, sy’n “addas i’r diben”.

Yn ei benderfyniad pellgyrhaeddol cyntaf ym mis Mawrth 2011, ailstrwythurodd y Bwrdd y lwfansau, gan sicrhau cywirdeb, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder yn y cymorth ariannol a roddir i’r Aelodau.

Yn ei ail adroddiad blynyddol mae’r Bwrdd yn cydnabod yr ymateb cadarnhaol gan Aelodau i’w waith, yn enwedig o ran cydbwyso’r agwedd gwerth am arian ar ei waith, â’r awydd i roi strwythur cymorth digonol i’r Aelodau er mwyn hwyluso’u gwaith o graffu yn y ffordd orau.

“Ar sail pwerau deddfu mwy’r Cynulliad, rydym wedi ein calonogi bod adnoddau’n cael eu targedu’n fwy effeithiol,” meddai Syr George Reid, Cadeirydd y Bwrdd.

“Mae hyn yn galluogi’r Aelodau i gyflawni’u swyddogaethau o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, craffu ar ddeddfwriaeth a chyllid, a chynrychioli buddiannau eu hetholwyr.

“Mae’n iawn bod cyrraedd y nod hwn yn tanategu ac yn llywio’r holl waith y mae’r Bwrdd Taliadau’n ei wneud.

“Os ydym i gael corff deddfu ar gyfer yr 21 ain Ganrif yng Nghymru, sy’n adlewyrchu gobeithion a dyheadau ei phobl, mae’n rhaid i’r rheini sy’n eu cynrychioli gael y cymorth, ariannol neu fel arall sy’n caniatáu iddynt gyflawni’r her sylfaenol hon.”

Mae’r Bwrdd ar hyn o bryd yn adolygu lwfansau staffio’r Aelodau a bydd yn gwneud penderfyniad erbyn mis Ebrill 2013.

Mae hefyd yn edrych ar bensiynau Aelodau’r Cynulliad a disgwylir penderfyniad ym mis Mawrth 2014, cyn i’r Bwrdd symud ymlaen i ystyried y pecyn taliadau cyfan ar gyfer y Pumed Cynulliad, gyda phenderfyniad terfynol yn 2015.

Gellir dod o hyd i’r adroddiad llawn yma.