Dadl ddigynsail ar Fil Cymru drafft - y Llywydd

Cyhoeddwyd 13/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/01/2016

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Fonesig Rosemary Butler AC, wedi galw dadl ar Fil Cymru drafft yn 'ddigynsail' yn hanes y Cynulliad.

Roedd y ddadl yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru drafft a gynhaliwyd yn y Senedd ddydd Mercher 13 Ionawr, 2016.

Yn ei adroddiad roedd y Pwyllgor ei alw'n gyfraith 'a wneud ar gyfer Cymru yn hytrach nag un wedi'i wneud gyda Chymru', ac y byddai'r Bil, os câi ei basio, yn gyrru pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i Gymru yn eu holau. Barn y Pwyllgor oedd nad yw'r Bil, er ei fod yn cynnwys rhai elfennau i'w croesawu, "eto mewn cyflwr i ennyn consensws" ac na ddylai fynd yn ei flaen nes y caiff ei ddiwygio'n sylweddol.

Wrth siarad ar ôl i Aelodau'r Cynulliad bleidleisio i groesawu'r adroddiad gan y Pwyllgor, dywedodd y Fonesig Rosemary:

"Mae'r ddadl heddiw ar Fil Cymru drafft yn ddigynsail.  Dyma ein ffordd ni o gyflwyno ein barn gyfunol ar bwerau a sefyllfa'r Cynulliad hwn yn y dyfodol i bobl Cymru, Senedd y DU a Llywodraeth y DU.

"Drwy siarad heddiw ag un llais, mae'r Cynulliad wedi dangos pa mor bwysig yw'r mater hwn i ddyfodol datganoli. Bydd yn rhaid i'r Bil Cymru nesaf roi cyfres lawnach, gliriach a mwy ymarferol o bwerau i'r Cynulliad i wneud penderfyniadau ar ran pobl Cymru. 

"Mae argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a'm cyfraniadau fy hun fel Llywydd ar ran y Cynulliad, yn rhoi atebion i Lywodraeth y DU a fyddai'n gwella'r Bil yn sylweddol. Gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb yn gadarnhaol iddynt."

Mae'r Llywydd wedi bod yn ganolog i'r drafodaeth ehangach am Fil Cymru drafft a setliad cyfansoddiadol Cymru.

 

Dywedodd:

"Rwyf yn cytuno ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru y dylem ni yn y Cynulliad ganolbwyntio ar wneud cyfreithiau ar gyfer Cymru a fydd yn gwella bywydau pobl. Dyna beth rydym am barhau i'w wneud.

"Ond yr unig ffordd y gallwn wneud hynny yw os byddai'n rhoi'r arfau deddfwriaethol cywir i'r Cynulliad i wneud y gwaith. Byddai ei gynigion presennol yn lleihau pwerau'r Cynulliad ac yn ei gwneud yn fwy anodd inni wneud cyfreithiau a fyddai o fudd i Gymru.

"Rwyf wedi awgrymu ffyrdd y gall yr Ysgrifennydd Gwladol unioni'r gwendidau hyn ac mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi gwneud yr un modd a heddiw, cafodd y syniadau hyn eu cymeradwyo gan y Cynulliad cyfan. 

"Nid dadl yw hon am wleidyddion yn gwirioni ar eu pwerau, yn hytrach na chanolbwyntio ar sut i wneud y gorau ohonynt. Mae hyn yn ymwneud â cheisio cael pecyn cymorth i Gymru sy'n gweithio, o'r diwedd."

Rhagor o wybodaeth am adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru drafft.