Darpariaeth gwasanaethau ieuenctid: datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cyhoeddwyd 25/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/04/2017

 

Meddai CadeiryddPwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol, Lynne Neagle AC, wrth ymateb i'r datblygiadau ym maes darpariaeth gwasanaeth ieuenctid yng Nghymru heddiw:

"Mae'r cyhoeddiad heddiw gan Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn destun siom, ond yn anffodus, nid yw'n annisgwyl.
 
"Yn ein hymchwiliad ein hunain i wasanaethau ieuenctid y llynedd, fe wnaethom alw am ddull radical gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r dirywiad brawychus, yn ein barn ni, yn swm ac amrywiaeth y gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru.

"Dywedodd rhanddeiliaid o'r sectorau statudol a gwirfoddol wrthym fod diffyg cyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru, nad yw pobl ifanc yn cymryd digon o ran yn y broses o ddatblygu polisïau sy'n effeithio'n uniongyrchol arnynt, a bod angen gwell cydweithio rhwng y sectorau statudol a gwirfoddol i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau prin.

"Mae darpariaeth gwaith ieuenctid yn hollbwysig ar gyfer pobl ifanc. Mae'n hanfodol sicrhau bod holl bobl ifanc Cymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid, i'w cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno model cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau ieuenctid os yw o ddifrif ynghylch cyflwyno gwasanaeth sy'n hygyrch i bob person ifanc yng Nghymru.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'n hargymhellion ac rydym wedi gwahodd y Gweinidog yn ôl i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr hyn a gyflawnwyd i amddiffyn y gwasanaethau hanfodol hyn."