Datblygu lleisiau’r dyfodol – gwahoddedigion arbennig ar gyfer sesiwn hawl i holi yn y Cynulliad

Cyhoeddwyd 08/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Datblygu lleisiau’r dyfodol – gwahoddedigion arbennig ar gyfer sesiwn hawl i holi yn y Cynulliad

8 Chwefror 2010

Bydd dros 100 o athrawon a disgyblion Blwyddyn 12 o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan mewn cynhadledd ddeuddydd yn y Cynulliad ddydd Mercher a dydd Iau, 10 ac 11 Chwefror.

O dan arweiniad Aelodau’r Cynulliad, bydd y disgyblion yn mynd ati i gynnal eu gweithdy eu hunain i ‘greu maniffesto ieuenctid’ – lle y byddant yn rhannu’n bedair ‘plaid’ ac yn cyflwyno’u maniffestos ar ffurf y rhaglen ‘Dragon’s Den’ i ddau arbenigwr a fydd yn eu holi am eu polisïau.

Bydd y Myfyrwyr Safon Uwch mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn cymryd rhan hefyd mewn sesiwn hawl i holi o dan gadeiryddiaeth Vaughan Roderick o’r BBC.

Bydd cyflwyniadau gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad a Leighton Andrews AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes hefyd yn rhoi gwybod i’r disgyblion sut mae’r Cynulliad yn cynrychioli, yn deddfu ac yn craffu yn ogystal â’u dysgu am y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru.

Siaradwyr eraill y gynhadledd fydd Dr Alison George o Gyd-bwyllgor Addysg Cymru, Yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Lerpwl a Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethu Cymru.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol: “Mae’r gynhadledd hon yn rhan o ymgyrch barhaus i gael pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, ac mae hyn yn un o’n blaenoriaethau ar gyfer ffyniant yn y dyfodol.

“Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r disgyblion yn y gynhadledd ac yn gobeithio y byddant yn gadael wedi cael eu hysbrydoli i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn y dyfodol.”

Dywedodd Alison George, o Gyd-bwyllgor Addysg Cymru: “Mae cynadleddau bob amser yn gyfle gwerth chweil i fyfyrwyr fwynhau amrywiaeth ehangach o brofiadau na’r hyn a gaiff eu cynnig gan un athro mewn ystafell ddosbarth, gan eu bod yn amhrisiadwy o ran ysgogi cymhelliant a gwella cyflawniad ar y cwrs Safon Uwch.

“Mae hyn hyd yn oed yn fwy gwir wrth gynnal cynadleddau ar gyfer myfyrwyr Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan fod hyn yn caniatáu i’r myfyrwyr gael cipolwg ar fywyd gwleidyddol a sut y mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd bob dydd: gwaith a gyrfa, addysg, gwasanaethau ac ati. Felly bydd profiadau’r gynhadledd ddeuddydd hon yn aros gyda’r myfyrwyr am hir. “