Jayne Bryant

Jayne Bryant

Datganiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: gwrandawiad cyn penodi Comisiynydd

Cyhoeddwyd 19/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/02/2021   |   Amser darllen munudau

Datganiad gan Jayne Bryant, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:

“Rwyf wedi ysgrifennu at Aelodau o’r Senedd heddiw, 19 Chwefror, i roi gwybod y bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal gwrandawiad cyn penodi ar gyfer yr ymgeisydd o ddewis ar gyfer ei enwebu i fod yn Gomisiynydd Safonau.

“Penodir y Comisiynydd gan y Senedd. Ar 7 Hydref 2020, dirprwyodd y Senedd y trefniadau ar gyfer recriwtio’r Comisiynydd i Glerc y Senedd. Ymgynghorwyd â’r Pwyllgor am y trefniadau, a chytunwyd i gynnal gwrandawiad cyn penodi, cyn cyflwyno enwebiad gerbron y Senedd.

“Bydd yr ymgeisydd o ddewis, sef Douglas Bain, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2021.

“Dewiswyd Mr Bain yn dilyn cystadleuaeth agored. Yn aelodau o’r panel dethol oedd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd, Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, Paul Grice, cyn-Glerc a Phrif Weithredwr Senedd yr Alban, a minnau fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

“Bydd yr enwebiad yn mynd gerbron y Senedd maes o law, ar gyfer cytuno arno, yn unol ag adran 1 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.”