Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad Cenedlaethol i adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar drosglwyddo cleifion mewn adrannau achosion brys ysbytai

Cyhoeddwyd 23/04/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad Cenedlaethol i adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar drosglwyddo cleifion mewn adrannau achosion brys ysbytai

Datganiad gan Jonathan Morgan AC

Mae’r ymgais i fesur faint o amser mae’n ei gymryd i griwiau ambiwlans drosglwyddo cleifion i adrannau damweiniau ac achosion brys yn gam cadarnhaol ymlaen. Ond mae’n amlwg nad yw’r system yn gweithio eto ac nad oes gwir ddealltwriaeth ar gael o’r sefyllfa.

Gwelwyd rhai camau cadarnhaol o ran gwella’r broses drosglwyddo, ond ni chaiff yr amseroedd trosglwyddo gofal eu cofnodi oherwydd problemau gyda’r terfynellau data newydd, gwrthwynebiad y staff o ran eu defnyddio ac ansicrwydd ynghylch y broses o gofnodi gwybodaeth.

Yn ogystal ag arwain at giwiau o ambiwlansys i y tu allan i ysbytai gan ei gwneud yn anodd iddynt ymateb i alwadau brys newydd, mae hefyd yn cael effaith andwyol ar y claf.

Mae’n rhaid i lawer o gleifion aros yn rhy hir cyn y gall criwiau ambiwlansys eu trosglwyddo i ofal staff meddygol a gall amser trosglwyddo hir olygu bod cleifion yn aros am sylw meddygol ar drolïau ambiwlansys mewn coridorau ysbytai ac mewn ambiwlansys.

Roedd targedau newydd a gyflwynwyd yn 2008 yn caniatáu 15 munud i griwiau ambiwlansys ac unedau achosion brys drosglwyddo cleifion. Mae hyn yn arwydd o ymrwymiad llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chanlyniadau negyddol sy’n deillio o’r oedi hir wrth drosglwyddo cleifion mewn ysbytai. Mae’n hanfodol bod pawb yn cydweithio’n fwy effeithiol yn y tymor byr i sicrhau bod y system gofnodi newydd yn gweithio, gyda’r nod o ddatblygu ffordd fwy ddi-dor o gynnig gofal brys i gleifion yng Nghymru.

Mae gwersi i’w dysgu – bydd angen i ymddiriedolaethau aciwt a’r ymddiriedolaeth ambiwlans gydweithio’n fwy effeithiol i wella’r sefyllfa. Ceir ambell i arwydd buan bod mwy o sylw penodol yn gwella’r sefyllfa.