Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cyhoeddi'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru,
'Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru'.
Dywedodd Mr Ramsay:
"Gwelsom effeithiau niweidiol tywydd garw ar arfordir Cymru mor ddiweddar â gaeaf 2013-14.”
"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn tynnu sylw at y buddsoddiad cyfalaf sylweddol a wnaed mewn rheoli risg arfordirol dros y blynyddoedd diwethaf a chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol newydd gwerth £150 miliwn rhwng 2018-19 a 2020-21.”
“Fodd bynnag, yn sgil newidiadau yn yr hinsawdd, mae rheoli'r risgiau ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn gofyn am atebion sy'n cael eu harwain gan yr egwyddor datblygu cynaliadwy sydd wrth wraidd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), gan gynnwys buddsoddiad tymor hir.”
"Er bod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn tynnu sylw at symbyliad newydd ers stormydd gaeaf 2013-14, mae'n amlwg bod llawer o waith i'w wneud o hyd i fynd i'r afael â’r materion a godwyd gan adolygiadau blaenorol, a hynny ar adeg pan fo cyrff cyhoeddus yn wynebu cyfyngiadau parhaus ar eu cyllid a’u gallu technegol.”
"Bydd y Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol maes o law."