Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Cyhoeddwyd 29/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/03/2017

​Mae Cadeirydd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad Cenedlaethol, David Rees AC, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i Lywodraeth y DU yn tanio Erthygl 50 yn ffurfiol i ddechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Rees:

"Mae tanio Erthygl 50 yn nodi moment arwyddocaol yn hanes ein gwlad.

"Bydd y cyfnod trafod o ddwy flynedd yn dechrau o ddifrif a bydd ein pwyllgor trawsbleidiol yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod llais Cymru'n cael ei glywed yn Llundain, ym Mrwsel, ac ym mhrifddinasoedd Ewrop.

"Ni waeth beth yw'n plaid, neu beth oedd ein safbwynt yn ystod y refferendwm, mae'n rhaid i ni ddod at ein gilydd er budd Cymru.

"Mae blynyddoedd o waith caled o'n blaenau, a bydd angen i ni dynnu ar arbenigedd a doniau pobl Cymru i gael y fargen sy'n iawn i Gymru."