Mae Dyfarniad y Goruchaf Lys yn ategu ymhellach pa mor gymhleth yw'r setliad datganoli yng Nghymru.
Fel y dywedais eisoes yn fy nghyflwyniad i Gomisiwn Silk, ac mewn datganiadau ar ôl Refferendwm yr Alban, mae angen mwy o eglurder arnom er mwyn ei gwneud yn haws i bawb ddeall beth sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.
Edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'w ddweud ar y mater hwn pan fydd yn gwneud ei gyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi ar ddyfodol setliad cyfansoddiadol Cymru.
Mae'r Rheolau Sefydlog yn caniatáu i'r Cynulliad ailystyried Bil os bydd y Goruchaf Lys yn canfod ei fod y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol. Byddaf yn trafod y mater ymhellach â'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil i benderfynu beth yw'r ffordd orau ymlaen.