Dathliad Tîm Cymru Gemau'r Gymanwlad yn y Senedd

Cyhoeddwyd 24/04/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Bydd sêr Tîm Cymru yn ymgynnull yn y Senedd i ddathlu eu cyflawniadau hanesyddol yng Ngemau'r Gymanwlad yn yr Arfordir Aur.

Ddydd Mercher 25 Ebrill, bydd Llywydd Cynulliad Cymru, Elin Jones AC, a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, yn cynnal derbyniad arbennig ar gyfer athletwyr ac enillwyr medalau Tîm Cymru, yn cynnwys Gareth Evans, medal aur gyntaf y Gemau fu’n cario’r faner yn y seremoni gloi; enillwyr medalau aur mewn bowlio lawnt, Mark Wyatt a Daniel Salmon; Alys Thomas yn y pwll; a thorrwr record byd, Hollie Arnold.

O ganlyniad i ennill 36 o fedalau yn yr Arfordir Aur, gan gynnwys 10 aur, cyrhaeddodd Tîm Cymru y seithfed safle ar y bwrdd medalau. Dyma ei safle uchaf erioed, a felly ei gemau mwyaf llwyddiannus.

Bydd pob aelod o'r tîm yn cael medal goffa o'r Bathdy Brenhinol i nodi ei gyflawniadau.

Bydd cyfle hefyd i bobl gyfarfod ag aelodau o Dîm Cymru am ffotograffau a llofnodion o flaen y Senedd o 18.30.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, “Mae Tîm Cymru wedi gwneud ein gwlad yn falch iawn ac rwy'n wir yn edrych ymlaen at groesawu’r athletwyr a’u hyfforddwyr i’r Senedd ar ôl eu perfformiadau hanesyddol yng Ngemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur.

"Fel erioed, mae llwyddiant mewn chwaraeon yn ffordd o godi ysbryd ac ysbrydoli eraill, felly mae'n iawn ein bod ni'n talu ein teyrngedau ein hunain i'r rhai sydd wedi gweithio mor galed i gynrychioli a hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd.”

Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:

“Mae pob un ohonom yn falch iawn o athletwyr Tîm Cymru gan eu bod wedi ennill y nifer fwyaf erioed o fedalau – 10 aur, 12 arian a 14 efydd – yn ystod Gemau’r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur.

“A hwythau wedi ennill medalau mewn 11 camp wahanol, mae eu perfformiad yn dangos dyfnder ac amrywiaeth yn llwyddiannau chwaraeon y wlad. Unwaith eto, rydym wedi profi bod Cymru wir yn genedl o bencampwyr, sy’n creu dynion a menywod ym myd chwaraeon sy’n gallu perfformio ar lwyfan y byd.

“Hoffwn dalu teyrnged i bawb a oedd yn rhan o’r tîm llwyddiannus hwn – yr athletwyr, yr hyfforddwyr, a phawb a weithiodd mor galed i fynd â Thîm Cymru i’r Arfordir Aur. Bydd y digwyddiad ddydd Mercher yn gyfle gwych i ni ddathlu’r athletwyr ysbrydoledig hyn.”

Dywedodd Helen Phillips MBE, Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru:

"Dyma’r Gemau gorau erioed i Gymru, ac mae ein hathletwyr a’n swyddogion yn edrych ymlaen yn fawr at dderbyniad ddydd Mercher a’n cyfle i gwrdd â Llywodraeth Cymru, fu’n ein cefnogi drwy'r cyfan, a’r cyhoedd yng Nghymru fu’n gefn mawr i ni. Roeddem yn anelu at ysbrydoli eraill i berfformio a gwneud eu gorau, ac i danio angerdd dros chwaraeon i Gymru, yn enwedig i bobl ifanc. Rwy’n gwbl hyderus ein bod wedi cyflawni’r ddau – trwy berfformiad ein hathletwyr wrth gystadlu, a hefyd eu hagwedd a’u hymddygiad oddi ar y meysydd chwarae.”

Caiff y digwyddiad ei ffrydio yn fyw ar dudalen Facebook y Cynulliad Cenedlaethol a bydd cyfweliadau ag aelodau o Dîm Cymru a chyfle i bobl ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 17.30 ac yn gorffen am 19.30 fan bellaf.