Cynhaliodd y Senedd prif lwyfan carnifal Butetown eleni, wrth i gymunedau lleol ac artistiaid rhyngwladol gymryd rhan mewn dathliad o amrywiaeth Cymru.
Digwyddodd y carnifal, ag oedd mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, dros benwythnos gŵyl banc mis Awst ac roedd yn cynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth, dawns a pherfformiadau artistig yn fyw ar risiau’r Senedd.
Mae’r carnifal yn dyddio’n ôl i’r 1960au ac mae’n ddigwyddiad o arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol i Gaerdydd a Chymru. Mae’r digwyddiad blynyddol yn croesawu plant a theuluoedd o amrywiaeth o gymunedau gwahanol bob blwyddyn.
Gwelwyd gorymdaith garnifal lliwgar ar y dydd Sul a chynhaliodd yr artist Joanna Quinn, a enwebwyd am wobr Oscar, gweithdy animeiddio ar y thema ‘carnifal’ yn y Senedd.
Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, Llywydd y Senedd:
“Mae’n bleser gennym gynnal Carnifal Butetown eleni ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i ymuno â’r dathliadau.
“Mae’n wych bod y Senedd yn cael ei defnyddio fel rhan o’r digwyddiad gwych hwn sy’n uno cymunedau amlddiwylliannol Caerdydd.
“Mae gan Garnifal Butetown wreiddiau hirsefydlog yng Nghaerdydd ac mae’n fraint i Senedd Cymru chwarae rhan ganolog yn y dathliadau.”
Hefyd yn siarad cyn y carnifal, dywedodd Keith Murrell, o Gymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown:
“Digwyddiad cynhwysol yw carnifal Butetown sy’n dathlu ein cymunedau amlddiwylliannol, sydd wedi mynd o nerth i nerth dros y degawd diwethaf.
“Mae’n wych cymryd rhan mewn partneriaeth gyda’r Senedd eleni.
“Mae’n symbolaidd fod ein Senedd yn ein croesawu yng nghanol y bwrlwm ym Mae Caerdydd. Y carnifal yw un o uchafbwyntiau calendr diwylliannol Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at benwythnos gwych.”