Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn y Senedd

Cyhoeddwyd 08/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn y Senedd  

Heddiw (8 Mawrth), bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, sy’n ddathliad byd-eang o gyraeddiadau merched, gyda chyfres o ddigwyddiadau drwy ystad y Cynulliad. Yn y Senedd, bydd Rosemary Butler AC, y Dirprwy Lywydd, yn siarad mewn digwyddiad ‘caffi’r byd’, a drefnwyd gan y Cyngor Prydeinig a’r darparwr cyrsiau hyfforddiant, Merched yn Gwneud Gwahaniaeth. Yn y caffi, bydd menywod yn eistedd o gwmpas byrddau yn dweud hanesion am nifer o fenywod a fu’n nodedig mewn hanes ledled y byd dros y 100 mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys y rhai a fu’n weithgar dros hawliau merched a’r rhai sydd wedi cyflawni gweithredoedd a dewrder a phenderfyniad. Bydd arddangosfeydd gan sefydliadau cydraddoldeb fel MEWN Cymru, Chwarae Teg, Merched y Wawr, Archif Menywod Cymru a Self Help Africa hefyd i’w gweld yn y Senedd i nodi’r diwrnod. Bydd Cymdeithas Celfyddydau’r Menywod yn cynnal digwyddiad yn y Pierhead a fydd yn cynnwys perfformiad gan grwp dawns benywaidd, India Dance Cymru, a chlocsiwr. Bydd y Gymdeithas hefyd yn lansio arddangosfa decstilau a fydd i’w gweld yn Oriel y Dyfodol yn y Pierhead. Bydd yr arddangosfa, ‘Yr Edau sy’n ein Clymu: Hen Grefftau gan Fenywod Modern’, yn arddangos gwaith artistiaid benywaidd o Gymru. Ar y diwrnod hwn hefyd, bydd y Cynulliad yn lansio cystadleuaeth i ddewis arwres Gymreig o’r gorffennol i’w nodi yn ‘ystafell yr arwyr’ yn y Pierhead o restr fer y mae modd ei gweld ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol yn www.cynulliadcymru.org. Yn y Gogledd, bydd bws Allgymorth y Cynulliad yn bresennol yng Nghanolfan Gelfyddydau a Chrefftau’r Felin, Treffynnon, lle bydd dathliadau diwrnod y menywod yn digwydd, a bydd 60 o aelodau Merched y Wawr hefyd yn ymweld a chanolfan ymwelwyr y Cynulliad ym Mae Colwyn i ddysgu am y Cynulliad. Exhibition in the Pierhead /Arddangosfa yn y Pierhead. Cliciwch y llun i weld yr albwm gyfan Dywedodd Rosemary Butler AC: “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod arwyddocaol drwy’r byd sy’n rhoi cyfle i bawb ohonom ystyried cyraeddiadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod, heddiw ac yn y gorffennol. “Mae’r diwrnod yn arbennig o arwyddocaol yma yng Nghymru, lle mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dod yn sefydliad sy’n cael ei gydnabod fel sefydliad blaengar a sicrhaodd fwy o gynrychiolaeth o blith merched ym myd gwleidyddiaeth. “Mae’r Cynulliad wedi cymryd nifer o gamau cadarnhaol i gynyddu nifer y merched sy’n cymryd rhan mewn democratiaeth, dros y tri Chynulliad ers datganoli. Ni fu’r canran o Aelodau’r Cynulliad sy’n ferched erioed yn is na 40 y cant. “Cymerwyd camau eraill gan y Cynulliad i gynyddu nifer y merched sy’n cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Maent yn cynnwys cynllun mentora gwleidyddol Camu Ymlaen Cymru, a gynhaliwyd ar y cyd a Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, lle’r oedd 75 y cant o’r rhai a oedd yn cael eu mentora yn ferched. “Dylid dathlu cyrhaeddiadau cadarnhaol fel y rhain ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac edrychaf ymlaen at y digwyddiadau yma yn y Senedd.”