Bydd carfan Cymru Gemau’r Gymanwlad yn cael croeso arwrol adref yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Gwener 12 Awst, gyda chyfle i bobl ddod draw i ddathlu llwyddiant yr athletwyr yn y Gemau.
Ar ôl sicrhau 28 o fedalau dros y 12 diwrnod o gystadlu, dychwelodd Tîm Cymru adref ar ôl y seremoni cloi ddoe (8 Awst) yn Birmingham.
Bydd yr athletwyr llwyddiannus yn cael eu croesawu i’r Senedd gan y Dirprwy Lywydd, David Rees AS, a’r Prif Weinidog, Mark Drakeford AS.
Byddent hefyd yn cael eu cyflwyno â medalau i gofio am eu perfformiadau yn ystod y digwyddiad y tu allan i’r Senedd, a gwahoddir y cyhoedd i ymuno â’r dathliadau o 5.30pm.
Bydd yna adloniant gan sêr y byd theatr ‘Welsh of the West End’ a band jazz o’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a bydd perfformiad o’r anthem genedlaethol yn dod â’r dathliadau i ben ar nodyn uchel.
Dywedodd David Rees AS, Dirprwy Lywydd y Senedd:
“Mae Tîm Cymru unwaith eto wedi gwneud ein cenedl yn falch. Braint o’r mwyaf fydd croesawu’r athletwyr a’r hyfforddwyr i’r Senedd nos Wener yma ar gyfer dathliad cyhoeddus o’u llwyddiannau anhygoel.
“Does dim amheuaeth bod yr ymroddiad, y chwarae teg a’r gwaith caled a ddangoswyd gan Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2022 wedi bod yn wir ysbrydoliaeth i ni i gyd. Unwaith eto maen nhw wedi profi bod Cymru yn genedl o arwyr – felly gadewch i ni roi croeso arwrol adref iddyn nhw.”