Dau gyfle i chi ddweud eich dweud am wasanaethau iechyd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 01/08/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dau gyfle i chi ddweud eich dweud am wasanaethau iechyd yng Nghymru   Bydd dau ymchwiliad newydd a lansiwyd gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn canolbwyntio ar leihau’r risg o stroc ac ar fferyllfeydd cymunedol. Bydd yr ymchwiliadau yn rhedeg ar wahan i’w gilydd ac mae’r Pwyllgor yn chwilio am bobl a sefydliadau sydd a diddordeb yng Nghymru i gyflwyno eu barn a’u tystiolaeth. Bydd yr ymchwiliad cyntaf yn archwilio i’r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau i leihau’r risg o stroc yng Nghymru a bydd yn craffu ar sut mae cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru i leihau’r risg o stroc yn cael ei roi ar waith. Bydd hyn yn cynnwys i ba raddau y mae’r camau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r ffactorau risg ar gyfer stroc wedi llwyddo. Bydd yr ail ymchwiliad yn edrych ar gyfraniad fferyllfeydd cymunedol at wasanaethau iechyd a lles yng Nghymru. Yn benodol, bydd y Pwyllgor yn edrych ar effeithiolrwydd y fframwaith gytundebol ar gyfer fferylliaeth gymunedol. Mae hyn yn ehangu ystod y gwasanaethau a gynigir gan fferyllfeydd cymunedol ac mae’n caniatau i Fyrddau Iechyd Lleol negodi rhai gwasanaethau ar lefel leol, gan gynnwys rhaglenni i helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu a rhaglenni cyfnewid nodwyddau a chwistrellau. “Yn achos ymchwiliadau fel hyn, mae’n hanfodol ein bod yn cael cymaint o wybodaeth a phosibl gan bobl sy’n defnyddio ac yn profi’r gwasanaethau hyn bob dydd,” meddai Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. “Ein nod yn y pen draw yw gwneud argymhellion a fydd yn gwella’r gwasanaethau hyn ar gyfer pobl Cymru, lle bynnag maent yn byw. “Hoffem glywed gan unrhyw un neu unrhyw sefydliad sydd a diddordeb yn y naill neu’r llall o’r ddau fater pwysig hyn a byddwn yn annog iddynt ddweud wrthym eu barn neu gyflwyno tystiolaeth.” Gallwch gyflwyno tystiolaeth drwy e-bost (HSCCommittee@wales.gov.uk) neu drwy’r post (Clerc y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA).