Dechrau cynllun partneriaeth Camu Ymlaen Cymru i ehangu cyfranogiad democrataidd

Cyhoeddwyd 07/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dechrau cynllun partneriaeth Camu Ymlaen Cymru i ehangu cyfranogiad democrataidd

07 Hydref 2009

Mae’r daith yn cychwyn heddiw (7 Hydref) i’r 33 ymgeisydd llwyddiannus a ddewiswyd i fod yn rhan o gynllun mentora sydd â’r bwriad o ehangu cyfranogiad mewn democratiaeth, wrth i’r cynllun gael ei lansio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd ‘Camu Ymlaen Cymru’ yn rhoi cyfle i bobl o garfannau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n llawn yng Nghymru gysgodi cynghorwyr lleol ac Aelodau’r Cynulliad dros y chwe mis nesaf, mewn ymgais i gynyddu eu cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd.

Cyhoeddwyd y cynllun ym mis Gorffennaf a chafodd ei ddatblygu ar y cyd rhwng  Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd y cyfranogwyr yn cael profiad ymarferol o bob agwedd ar y gwaith o wneud penderfyniadau ar y lefel leol a chenedlaethol, drwy fynd i gyfarfodydd cyhoeddus ac arsylwi ar swyddi eu mentoriaid.

Bydd y cynllun hefyd yn galluogi’r cynrychiolwyr i rannu eu profiadau o berthyn i garfan nad yw’n cael ei chynrychioli’n llawn mewn gwleidyddiaeth gyda’u mentoriaid.

Cynigir cyfleoedd hyfforddiant a datblygu i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y cynllun a byddant yn logio’u profiadau mewn dyddiadur er mwyn cadw cofnod o’r siwrnai ddemocrataidd.

“Cafwyd ceisiadau o bob rhan o Gymru ar gyfer Cynllun Camu Ymlaen. Mae’r ymgeiswyr yn dod o bob math o gefndiroedd gwahanol ac mae ganddynt i gyd eu diddordebau a’u  breuddwydion eu hunain, ac rwyf wrth fy modd i weld cymaint o amrywiaeth o ymgeiswyr llwyddiannus,” dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad.

“Rwy’n gobeithio y bydd y 33 ymgeisydd llwyddiannus yn cael budd o’r profiad, ac yn ei fwynhau, y bydd yn eu hysgogi i ymwneud ymhellach â’r broses ddemocrataidd ac y byddant yn annog eraill i wneud yr un peth”.

Dywedodd y Cynghorydd Lindsay Whittle (Caerffili), Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Faterion Cydraddoldeb ac un o fentoriaid Camu Ymlaen Cymru:

“Mae’r cynllun hwn yn gyfle gwirioneddol i lywodraeth leol ac aelodau o’r gymuned gamu ymlaen a gweithio gyda’i gilydd.

“Mae’r ymateb cadarnhaol i’r cynllun wedi bod yn galonogol iawn ac rwy’n hyderus y bydd yn dangos sut y gall meithrin cysylltiadau â chymunedau arwain at newidiadau er gwell drwy ymwneud â gwleidyddion a’r broses ddemocrataidd.

“Mae’r cynllun hwn yn gyfle i bawb sy’n rhan ohono i gael profiadau newydd ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Bydd hyn yn sicr o gynyddu hyder y cyfranogwyr a dangos bod gan garfanau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n llawn y pwer i newid pethau er gwell ym myd llywodraeth leol yng Nghymru.”