Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cyhoeddi adroddiad ar ddeiseb sy’n galw am roi chwarae teg i athrawon cyflenwi. Mae'r ddeiseb yn ymwneud â chyflog ac amodau gwaith ar gyfer athrawon cyflenwi, ac mae’n galw am newidiadau i'r trefniadau ar gyfer eu cyflogi. Yn benodol, galwodd y deisebwyr am i athrawon cyflenwi gael eu cyflogi'n uniongyrchol yn hytrach na thrwy asiantaethau, ac am isafswm cyfradd tâl.
Clywodd y Pwyllgor Deisebau dystiolaeth gan y deisebwyr, gan sefydliadau addysg, gan undebau’r athrawon a chan asiantaethau cyflenwi. Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth hefyd gyda Kirsty Williams AS, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru.
Mae adroddiad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar nifer o faterion a oedd yn deillio o’i waith craffu ar y ddeiseb, gan gynnwys:
- hyfywedd datrysiad sector cyhoeddus ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi yng Nghymru;
- trefniadau newydd ar gyfer contract asiantaethau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2019, gan gynnwys isafswm cyfradd tâl a rhagor o dryloywder ynghylch ffioedd;
- cyfleoedd hyfforddi a dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon cyflenwi.
Argymhellion
Mae'r Pwyllgor wedi gwneud pedwar argymhelliad. Mae'r rhain yn cynnwys bod angen i Lywodraeth Cymru barhau i adolygu’n ofalus y trefniadau contract newydd a gyflwynwyd yn 2019, a monitro cyfradd y defnydd ohono gan ysgolion; ac y dylai Llywodraeth nesaf Cymru roi rhagor o ystyriaeth i drefniadau amgen ar gyfer cyflenwi athrawon ysgol. Yn benodol, mae gan y Pwyllgor gydymdeimlad â'r achos a wnaed gan y deisebwyr, ac mae'n ystyried y byddai manteision sylweddol i ddatrysiad sector cyhoeddus o’i gymharu â’r model presennol.
Gellir gweld yr adroddiad yn llawn a chael rhagor o wybodaeth am y ddeiseb yma.