Deiseb sy’n galw am eli haul am ddim i blant yn sbarduno ymchwiliad gan y Cynulliad

Cyhoeddwyd 14/02/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Deiseb sy’n galw am eli haul am ddim i blant yn sbarduno ymchwiliad gan y Cynulliad

14 Chwefror 2012

Bydd deiseb sy’n galw am i bob plentyn o dan 11 oed yng Nghymru gael eli haul am ddim yn cael ei harchwilio fel rhan o ymchwiliad newydd gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio nid yn unig ar a yw eli haul ar gael a’r defnydd ohono, ond ar fentrau eraill mewn perthynas ag amddiffyn plant rhag yr haul, fel darparu man cysgodi yn yr ysgol a gwisgo dillad addas y tu allan.  

Cefnogwyd y ddeiseb, a gyflwynwyd gan elusen Tenovus, gan dros 9,000 o lofnodwyr, ac fe’i cyfeiriwyd i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc gan y Pwyllgor Deisebau.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: “Mae digon o dystiolaeth sy’n dangos mai golau uwchfioled sy’n achosi’r nifer fwyaf o achosion o ganser y croen.”

“Ymhlith y cwestiynau y byddwn yn eu gofyn fel rhan o’r ymchwiliad yw a yw’r polisïau a’r canllawiau presennol ar amddiffyn pobl rhag yr haul yn effeithiol o ran amddiffyn plant rhag yr haul, ac, os nad ydynt, lle y mae angen gwella.”

“Byddwn yn ystyried hefyd a oes digon o ymwybyddiaeth o bolisïau presennol ar amddiffyn pobl rhag yr haul ac, os nad oes, beth yw’r ffordd orau i godi ymwybyddiaeth.”

“Byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd â barn ar y mater gysylltu â ni i gynnig ei sylwadau neu i wneud awgrymiadau.”

Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth i’w hystyried gan y Pwyllgor naill ai anfon e-bost at PwyllgorPPL@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai’r dystiolaeth ddod i law erbyn 9 Mawrth, 2012. Efallai na fydd yn bosibl ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.