Deiseb sy’n galw am fwy o addysg cyfrwng Gymraeg yng Nghaerffili yn cael ei chyflwyno yn y Senedd

Cyhoeddwyd 29/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Deiseb sy’n galw am fwy o addysg cyfrwng Gymraeg yng Nghaerffili yn cael ei chyflwyno yn y Senedd

29 Tachwedd 2011

Cafodd deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu cais a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am arian i gyllido darpariaeth addysg uwchradd cyfrwng Gymraeg ychwanegol mewn ysgolion erbyn 2013 ei chyflwyno yn y Senedd ar 29 Tachwedd.

Mae’r ddeiseb hon yn datgan y bydd nifer y disgyblion a fydd am gael addysg cyfrwng Gymraeg yng Nghaerffili yn cynyddu’n sylweddol erbyn 2016, gan olygu y bydd angen adeiladu un ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd ychwanegol.

Casglwyd 1000 o lofnodion mewn cyfnod o 24 awr ar gyfer y ddeiseb, a’r prif ddeisebwyr yw aelodau’r grwp Rhieni dros Addysg Gymraeg.

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno’n ffurfiol i aelodau’r Pwyllgor Deisebau, sef Pwyllgor trawsbleidiol sy’n cael ei gadeirio gan William Powell AC.