Dewi y Ddraig yn mynd i faes Eisteddfod yr Urdd i geisio annog plant i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth
Caiff pobl ifanc yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd eu hannog i ddweud eu dweud ar waith y Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol.
Bydd Helen Mary Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, yn ymuno â Dewi y Ddraig ar 27 Mai wrth iddo fynd o amgylch y maes yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Gofynnir iddynt lenwi papur balot yn amlinellu pa faterion y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol a’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, yn eu barn hwy, ganolbwyntio arnynt yn benodol yn ystod y pump i ddeng mlynedd nesaf.
Mae hyn yn rhan o raglen allgymorth dengmlwyddiant y Cynulliad Cenedlaethol sy’n ceisio annog mwy o bobl yng Nghymru i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Dywedodd Helen Mary Jones AC: “Y bobl ifanc yn Eisteddfod yr Urdd yw’r bobl a fydd yn pleidleisio yn y dyfodol neu hyd yn oed yn dod yn wleidyddion eu hunain.
“Felly, mae’n hanfodol ein bod yn ennyn diddordeb pobl ifanc yn y gwaith rydym yn ei wneud yn y Cynulliad Cenedlaethol.
“Y ffordd orau o wneud hyn yw dangos bod modd iddynt ddylanwadu ar waith y Cynulliad ac mai’r ffordd orau o wneud hyn yw datgan pa faterion y dylem ni, fel Aelodau Cynulliad, fod yn edrych arnynt.”
Gwahoddir pobl ifanc i lenwi papur balot arbennig yn nodi pa feysydd polisi y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol ganolbwyntio arnynt yn eu barn hwy.
Yna, trefnir eu bod yn mynd i ystafell arbennig yn y Senedd lle ceir bythau pleidleisio a blychau balot.
Yna, bydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn ystyried a yw’n bosibl iddo gynnal ymchwiliadau i’r materion a godwyd rywbryd yn y dyfodol.