Diddymwch yr 'angen blaenoriaethol' er mwyn mynd i'r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru, meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 20/04/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Dylai Llywodraeth Cymru ddiddymu'r cysyniad o 'angen blaenoriaethol' am dai os yw am leihau nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Er y dylai llawer o bobl sy'n cysgu ar y stryd gael eu hystyried yn hyglwyf, er enghraifft oherwydd iechyd corfforol neu feddyliol gwael, neu broblemau camddefnyddio sylweddau, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau fod y meini prawf presennol o ran angen blaenoriaethol yn golygu eu bod yn cael eu gadael ar y stryd.

Mae ffigurau'n dangos bod o leiaf 345 o bobl yn cysgu ar y stryd ledled Cymru yn ystod y pythefnos rhwng 16 a 29 Hydref 2017, gan ddangos cynnydd cyson yn y niferoedd, er nad yw union raddfa'r cynnydd yn hysbys.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar y Llywodraeth i ddiddymu'r angen blaenoriaethol, a fydd yn rhoi'r hawl i dai i bob teulu digartref, gan gynnwys pobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae'r Pwyllgor wedi argymell bod pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cael eu hasesu'n awtomatig fel bod ag angen blaenoriaethol, nes y caiff yr angen blaenoriaethol ei ddiddymu.

Os yw Llywodraeth Cymru o blaid peidio â gwneud hynny, mae'r Pwyllgor yn awgrymu diwygio'r diffiniad o 'hyglwyf' yn Neddf Tai 2014, y dywedwyd wrth yr Aelodau ei bod yn methu cyrraedd y nod o gynorthwyo pobl sy'n cysgu ar y stryd.

"Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru yn cynyddu ac mae hyn yn rhywbeth na ddylem ei dderbyn fel cymdeithas," meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

"Mae'r rhesymau pam bod pobl yn byw ar y stryd yn aml yn gymhleth ac nid oes un ateb sy'n addas i bawb.

"Yr hyn y mae ein hymchwiliad wedi'i ganfod yw bod y meini prawf a ddefnyddir i adnabod y rheini sydd ag 'angen blaenoriaethol' am lety gymaint fel bod hyd yn oed y bobl fwyaf hyglwyf yn ein cymunedau yn disgyn drwy'r rhwyd.

"Rydym am i Lywodraeth Cymru gyflwyno dull graddol o ddiddymu'r angen blaenoriaethol, a fyddai'n dechrau drwy sicrhau bod pawb sy'n cysgu ar y stryd yn cael eu hystyried i fod ag angen blaenoriaethol, a bod ganddynt hawl i gael cymorth a thai."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 29 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Cyflwyno dull graddol o ddiddymu'r angen blaenoriaethol. Mae'r dull hwn yn golygu ymestyn angen blaenoriaethol i gynnwys pobl sy'n cysgu ar y stryd fel categori ar wahân cyn diddymu;

  • Os nad yw Llywodraeth Cymru o blaid derbyn ein hargymhelliad ar gyfer dull graddol o ddiddymu'r angen blaenoriaethol, rydym yn argymell ei bod:

  • Yn diwygio'r diffiniad o 'hyglwyf' yn adran 71 i adlewyrchu'r gyfraith achosion gyfredol (dyfarniad Hotak), ac

  • Yn diwygio'r Ddeddf i gynnwys pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio ymhellach y diffiniad o 'hyglwyf' trwy orchymyn, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried argymhellion y pwyllgor.

 

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru (PDF, 1.13 MB)