Diffyg arian ac arweinyddiaeth yn golygu nad yw'r Ddeddf Teithio Llesol yn gwireddu ei huchelgais, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 22/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/02/2016

​Mae diffyg cyllid penodol a diffyg arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru yn golygu nad yw'r Ddeddf Teithio Llesol yn cyrraedd ei llawn botensial, yn un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.


Pwrpas y Ddeddf, a basiwyd yn 2013, yw annog rhagor o bobl i gerdded neu seiclo drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu llwybrau ac ystyried cludiant di-fodur wrth gynllunio ffyrdd a chysylltiadau trafnidiaeth newydd.

Wrth adolygu'r Ddeddf, canfu'r Pwyllgor Menter a Busnes mai dim ond ychydig o arian ychwanegol a neilltuwyd i awdurdodau lleol ac y bu diffyg arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru wrth gyflawni amcanion y Ddeddf.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y gallai hyn atal prosiectau uchelgeisiol rhag cael eu cynnig gan awdurdodau lleol.

Mae'r Pwyllgor hefyd am weld mwy o waith codi ymwybyddiaeth o'r Ddeddf ymysg y cyhoedd ac roedd o'r farn fod gwell hyrwyddo'r agenda teithio lles yn allweddol er mwyn newid diwylliant i gael rhagor o bobl allan o'u ceir ac ystyried ffyrdd iachach o drafnidiaeth.

Dywedodd William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, "Mae'r Pwyllgor yn cymeradwyo uchelgais y Ddeddf, sy'n ceisio gwneud cerdded a seiclo i'r ysgol, i'r gwaith ac ar gyfer gweithgareddau eraill, yn beth arferol.

"Rydym yn gwybod bod y Ddeddf yn dal i fod yn ei dyddiau cynnar, ond rydym am sicrhau bod sylfeini cadarn ar waith nawr er mwyn symud tuag at ffyrdd iachach a gwyrddach o deithio. 

"Dywedodd llawer o bobl a sefydliadau wrthym y bu llwyddiannau mawr ar y dechrau ond bod cryn rwystredigaeth gan nad yw potensial llawn y Ddeddf yn cael ei wireddu.

"Mae'r Pwyllgor yn pryderu a oes digon o arian ac adnoddau ar gael i gefnogi'r Ddeddf.

"Roeddem yn teimlo bod hyrwyddo'r agenda teithio llesol yn allweddol er mwyn newid diwylliant.  Rydym yn galw am ymgyrch hyrwyddo genedlaethol sy'n dangos buddiannau teithio llesol, yn enwedig targedu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd i gymryd rhan.

"Dim ond os oes gan Lywodraeth Cymru hyder i gyflawni'r hyn y mae wedi dechrau gyda'i deddfwriaeth ei hun y bydd y Ddeddf Teithio Llesol yn llwyddo. Mae'r Pwyllgor yn pryderu, yn ôl tystiolaeth y flwyddyn a hanner gyntaf, bod ymrwymiad y Llywodraeth wedi dechrau pylu cyn iddo ddechrau'n iawn."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud wyth argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru fod â llinell gyllideb benodol sy'n ymroddedig i gefnogi teithio llesol. Dylai'r gyllideb ar gyfer teithio llesol gael ei defnyddio ar gyfer cefnogi prosiectau seilwaith teithio llesol a hyrwyddo teithio gweithredol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru gychwyn genedlaethol i hyrwyddo buddiannau teithio llesol; a
  • Dylai'r Cynllun Teithio Llesol gynnwys datganiad o uchelgais sy'n gosod targedau i gynyddu nifer y teithiau cerdded a seiclo yng Nghymru. Dylai hefyd nodi sut y bydd pob Adran o Lywodraeth Cymru yn hyrwyddo a chefnogi teithio llesol.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Menter a Busnes