'Diffyg brys' o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn staff y GIG

Cyhoeddwyd 01/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

'Diffyg brys' o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn staff y GIG.

Er bod peth cynnydd wedi cael ei wneud o ran mynd i’r afael â thrais ac ymddygiad ymosodol yn erbyn staff y gwasanaeth iechyd, ychydig iawn o frys a roddwyd o ran ymateb i’r broblem.

Dyna farn Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru sydd wedi cwblhau ymchwiliad i’r broblem sy’n effeithio ar nyrsys, meddygon a staff cymorth mewn ysbytai a meddygfeydd ledled Cymru.

Erbyn hyn, mae Aelodau’r Pwyllgor, a fydd yn lansio’r adroddiad yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd heddiw (1 Gorffennaf), yn galw am weithredu ar frys er mwyn ceisio ymateb i’r "diffyg cynnydd” ers y tro diwethaf i’r Pwyllgor ystyried y mater yn 2006.

"Ychydig dros dair blynedd sydd ers y tro cyntaf i’r Pwyllgor adrodd yn ôl ar yr angen i amddiffyn staff y GIG rhag trais ac ymddygiad ymosodol,” meddai Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

"Gwnaed ychydig o gynnydd yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae systemau ar gyfer cofnodi digwyddiadau a systemau ar gyfer datblygu hyfforddiant y staff wrthi’n cael eu datblygu.

"Ond mae cryn ffordd i fynd a bu’r cynnydd mewn tair blynedd yn araf iawn.

"Yn ogystal â hyn, ymddengys bod diffyg brys cyffredinol wedi cael ei roi i’r mater hwn a siomedig iawn oedd yr hyn a ymddangosai fel prif ymateb y rheolwyr iechyd, sef y byddai popeth yn iawn erbyn mis Hydref o ganlyniad i ad-drefnu’r GIG.”

Yn arbennig, cyfeiriodd y Pwyllgor at bryderon am y nifer isel o erlyniadau o’i chymharu â nifer y digwyddiadau a galwodd ar y Gweinidog iechyd, mewn cydweithrediad â’r undebau, i ystyried tybed a oes angen lobïo San Steffan i gyflwyno deddfwriaeth newydd.

Mynegodd yr Aelodau eu pryderon hefyd bod llawer o’r staff diogelwch ar gontractau dros dro neu ar gontractau preifat a bod hyn yn golygu nad oes ganddynt y sgiliau na’r hyfforddiant mewn llawer o achosion i ymdrin â materion sy’n ymwneud yn benodol ag ysbytai neu’r maes iechyd.

Canfuwyd hefyd nad oedd, o hyd, ddigon o ddyhead yn gyffredinol tuag at hyfforddi staff i ymdrin â digwyddiadau treisgar.

Mae’r Pwyllgor yn argymell, felly:

  • Dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i’r holl faterion a amlinellir yn ei adroddiad a dylai Llywodraeth Cymru gyflymu’r holl waith a nodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad ar yr un mater.

  • Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf erbyn diwedd y flwyddyn hon pan fydd yn gallu dangos bod yr holl gamau sy’n dibynnu ar sefydlu’r Byrddau Iechyd Lleol wedi cael eu gweithredu a chanlyniadau i’w gweld.

Cliciwch i weld yr adroddiad

Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn lansio'r adroddiad gyda staff adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Athrofaol Cymru.