Diffyg Democrataidd - pa ran y gall y cyfryngau cymunedol a digidol ei chwarae wrth geisio sicrhau sylw cynhwysfawr i newyddion y Cynulliad?
6 Mehefin 2013
Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu ffigurau adnabyddus o fyd y cyfryngau digidol a chymunedol yng Nghymru i gynhadledd yn y Pierhead ar 12 Mehefin.
Dyma'r ail gynhadledd yn y gyfres "Mynd i'r afael â'r Diffyg Democrataidd yng Nghymru" sy'n cael ei chynnal gan y Cynulliad Cenedlaethol, i drafod sut y mae'r cyfryngau yn rhoi sylw i waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd y gynhadledd gyntaf fis yn ôl, a thrafodwyd methiant llwyfannau cyfryngau tradodiadol, ar lefel y DU yn arbennig, o ran gwerthfawrogi a chyfleu'r gwahaniaethau enfawr a geir o ran y dull o ymdrin â pholisi cyhoeddus, mewn meysydd datganoledig fel iechyd ac addysg, i'w cynulleidfaoedd yng Nghymru.
Ar 12 Mehefin, bydd yr ail gynhadledd yn anelu at drafod a yw symudiad hyper-leol lewyrchus Cymru o newyddiaduraeth gymunedol a dinasyddol, papurau bro a blogwyr gwleidyddol toreithiog yn ymgysylltu pobl yn well â materion dinesig a democrataidd na newyddiaduraeth prif ffrwd.
Cyn y gynhadledd, dywedodd y Llywydd, "Mae'r ffaith nad yw elfennau mawr o gyfryngau'r DU, a rhai o gyfryngau Cymru, yn gallu cyfleu adroddiadau priodol ar waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arwain at ddiffyg gwybodaeth ynghylch bywyd gwleidyddol Cymru."
"Mae llawer o bobl Cymru yn cael eu newyddion drwy lwyfannau cyfryngau'r DU, sy'n methu â chyfleu'r gwahaniaethau polisi anferth i'w cynulleidfaoedd yng Nghymru.
"Mae hyn yn golygu, felly, bod llawer yng Nghymru nad ydynt yn ymwybodol o'r ffaith bod ein hysgolion a'n hysbytai yn cael eu rheoli mewn ffordd wahanol iawn i'r rhai yn Lloegr.
"Mae'r sesiwn hon yn dilyn un arall a gynhaliwyd fis yn ôl, lle y gwahoddwyd ffigurau adnabyddus o gyfryngau Cymru a'r DU i drafod y materion.
"Rwyf am inni ehangu'r drafodaeth y tu hwnt i'r ffrydiau cyfryngau traddodiadol ac archwilio pa ran y gallai'r gymuned hyper-leol ei chware, a pha ran y dylai ei chwarae o ran cau'r bwlch hwn.
Dylem edrych ar lwydddiant mentrau cymunedol, eu hyfywedd hirdymor, a gofyn pa gamau y dylai'r Cynulliad eu cymryd i helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn dod yn ddinasyddion lleol gweithgar."
Cynhelir y sesiwn ar ffurf trafodaethau cyffredinol o amgylch bwrdd, lle y bydd pob bwrdd yn ystyried meysydd penodol ac yn cael ei gadeirio gan arweinwyr yn y meysydd hynny. Bydd pob trafodaeth yn para tua 15 munud, cyn i'r hwyluswyr symud ymlaen i'r bwrdd nesaf.
Y pedwar maes yw:
Cyfryngau digidol;
Papurau newydd hyper-leol, gan gynnwys y papurau bro;
Radio cymunedol; a
Theledu lleol.
Mae ambell i le gwag ar gael os ydych am ddod i'r gynhadledd. Gellir archebu lle drwy ffonio llinell archebu'r Cynulliad ar 0845 010 5500 neu drwy anfon e-bost at archebu@cymru.gov.uk.
Os na allwch ddod, mae croeso i chi gymryd rhan drwy ddilyn y gynhadledd ar Twitter drwy #diffygnewyddion neu #newsdeficit.