Diffyg Democrataidd - y Llywydd yn croesawu ffigyrau amlwg o fyd y cyfryngau i’r Pierhead mewn ymgais i sicrhau lluosogrwydd yn y sylw a roddir i newyddion y Cynulliadws

Cyhoeddwyd 21/05/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Diffyg Democrataidd - y Llywydd yn croesawu ffigyrau amlwg o fyd y cyfryngau i’r Pierhead mewn ymgais i sicrhau lluosogrwydd yn y sylw a roddir i newyddion y Cynulliad

21 May 2013

Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu ffigyrau adnabyddus o fyd y cyfryngau i’r Pierhead ddydd Iau, 23 Mai.

Byddant yn cymryd rhan yn nigwyddiad ‘Mynd i’r afael â’r Diffyg Democrataidd’ a fydd yn ystyried sut mae’r cyfryngau yn rhoi sylw i waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd y diwrnod yn cael ei rannu’n ddwy sesiwn, a bydd y ddwy ohonynt o dan gadeiryddiaeth Richard Sambrook, cyn-Gyfarwyddwr Newyddion Byd-eang y BBC a chyfarwyddwr presennol Canolfan Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd.

Yn ystod y sesiwn gyntaf, bydd y panel yn cynnwys Kevin Maguire, Golygydd Cyswllt y Mirror; Peter Riddell, cyn-Olygydd Cynorthwyol y Times; a Peter Knowles, Rheolwr sianel BBC Parliament.

Yn yr ail sesiwn, bydd panel o olygyddion papurau newydd yng Nghymru yn trafod pa gamau gall ein cyfryngau yng Nghymru eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater.

Wrth groesawu cynadleddwyr bydd y Llywydd yn datgan: “Mae lluosogrwydd yn sylw’r cyfryngau yng Nghymru yn gonglfaen i’r setliad datganoli.

“Mae’n hanfodol er mwyn sicrhau bod gwaith y Cynulliad yn hygyrch a thryloyw i gynifer o ddinasyddion â phosibl. Mae hefyd yn hwyluso trafodaeth genedlaethol gadarn ar y materion sy’n cyfrif i’n cymunedau.

“Ond mae cyfryngau’r DU yn methu â gwerthfawrogi a throsglwyddo’r gwahaniaethau enfawr o ran y dull o ymdrin â pholisi cyhoeddus, mewn meysydd datganoledig fel iechyd ac addysg, i’w cynulleidfaoedd yng Nghymru.

“Er enghraifft, nododd gwaith ymchwil gan yr Athro Anthony King ac Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd fod rhai o ddarlledwyr a gwasanaethau newyddion blaenllaw’r DU yn cymryd safbwynt sy’n canolbwyntio ar Loegr fel safbwynt cychwynnol, gan sôn am faterion sy’n effeithio ar Loegr yn unig fel rhai sy’n berthnasol i’r DU gyfan.

“Ychwanegir at y broblem gan y pwysau ariannol sy’n wynebu ein gweisg cenedlaethol a rhanbarthol cynhenid yng Nghymru, sy’n golygu bod llawer ohonynt yn methu â neilltuo adnoddau i roi sylw llawn i newyddion y Cynulliad.

“Credaf ein bod mewn perygl o gerdded yn ddiarwybod tuag at dirlun cyfryngau yng Nghymru lle ychydig iawn o luosogrwydd sydd yn y gwaith o adrodd ar ein bywyd gwleidyddol, neu lle nad oes dim lluosogrwydd o gwbl - pa ddyfodol fydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedyn?

Dyna pam yr wyf wedi trefnu’r gynhadledd hon heddiw, er mwyn cychwyn proses o symud tuag at ganfod rhai atebion go iawn. “

Nod y gynhadledd fydd archwilio:

  • Pam mae darlledwyr yn ymdrin â datganoli yn y modd y maent a sut gallwn ddylanwadu arnynt i newid;

  • Sut i sicrhau bod gwasg y DU yn adlewyrchu’r gwahaniaethau polisi sy’n bodoli rhwng y cenhedloedd;

  • Beth yw’r prif rwystrau i godi proffil democratiaeth Cymru yn ein gwasg ranbarthol; a’r

  • rhan mae llwyfannau cyfryngau newydd yn debygol o’i chwarae mewn newyddion a rhannu gwybodaeth yn y dyfodol.

Bydd y pwynt olaf yn destun ei sesiwn ei hun yn y Pierhead ar 12 Mehefin, pan fydd blogwyr a newyddiadurwyr hyperleol Cymru yn cymryd rhan mewn trafodaeth ynghylch eu rôl yn y ddadl hon.

Os hoffech fod yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw gallwch drefnu lle drwy ffonio llinell archebu’r Cynulliad ar 0845 010 5500 neu drwy anfon e-bost at archebu@cymru.gov.uk.