Diffyg manylder yng nghyllideb ddrafft yr Ombwdsmon ac mae’n peri dryswch - yn ôl adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cyhoeddwyd 21/01/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Diffyg manylder yng nghyllideb ddrafft yr Ombwdsmon ac mae’n peri dryswch - yn ôl adroddiad y Pwyllgor Cyllid

21 Ionawr 2011

Mae adroddiad trawsbleidiol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn dangos pryder a siom ynghylch cyflwyniad cyllideb Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd y Pwyllgor Cyllid bod diffyg manylder yn y ffigurau a gyflwynodd Peter Tyndall, yr Ombwdsmon, a’u bod yn peri dryswch.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am gynnal ymchwiliadau i gwynion ynghylch gwasanaethau gwael gan aelodau o’r cyhoedd yn erbyn sefydliadau’r sector cyhoeddus.

Roedd aelodau’r Pwyllgor hefyd yn holi a oedd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2011-12 yn ystyried yr angen am arbedion posibl yn dilyn Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant y DU. Roedd amcangyfrif diwygiedig a gyflwynwyd mewn cyfarfod dilynol â Mr Tyndall yn dangos gostyngiad o 3 y cant mewn arian, ac roedd hyn yn gyfwerth â gostyngiad o 4.8 y cant mewn termau real, gan ddefnyddio datchwyddiannau cynnyrch mewnwladol crynswth (CMC) ar y pryd.

Dywedodd Angela Burns AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Mae’n peri pryder bod corff sydd wedi cael y cyfrifoldeb dros sicrhau tegwch a gwasanaethau o safon gan y sector cyhoeddus yn dangos diffyg eglurder a manylder yn ei gyllideb ddrafft ei hun.


“Teimlwn ei bod yn hanfodol y dylai amcangyfrifon yr ombwdsmon fod yn dryloyw ac yn hawdd eu deall, nid yn unig i ni ond i’r cyhoedd yn fwy na hynny.

“Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn gyfrifol am wasanaeth statudol pwysig a’i fod yn wynebu heriau sylweddol.

“Er hynny, teimlwn fod angen craffu mwy ar gyllideb yr ombwdsmon yn y dyfodol ac rydym yn argymell bod hyn yn cael ei gynnwys o fewn dyletswyddau pwyllgor priodol yn ystod y pedwerydd Cynulliad.