Digartrefedd, Ysgolion, Argyfwng Hinsawdd, Trafnidiaeth Cymru ac Iechyd: Pwyllgorau polisi'r Cynulliad yn rhoi eu barn am gyllideb ddrafft £17 biliwn Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 31/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/01/2020

  • Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â digartrefedd i ben ddim wedi ei adlewyrchu yn y gyllideb
  • Rhaid i’r cyllid ychwanegol ar gyfer addysg gyrraedd y rheng flaen
  • Mae’n annerbyniol fod Llywodraeth Cymru yn honni nad ydyn nhw’n gwybod digon am effaith datgarboneiddio
  • Angen esboniad pellach ynghylch taliadau a thargedau gweithredwr Trafnidiaeth Cymru
  • Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos sut y bydd yn cefnogi newidiadau i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig 

Mae pedwar o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi adroddiadau sy'n ystyried sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario ei chyllideb o £17 biliwn ar ysgolion, ysbytai, yr amgylchedd a gwasanaethau lleol.


Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Mae'r Pwyllgor yn siomedig nad yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru yn cael ei ategu gan y cyllid sydd wedi ei neilltuo ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem. Mewn gwirionedd, o dan y gyllideb ddrafft, bydd y cyllid yn aros yr un fath, ac mae hyn yn cyfateb i doriad mewn termau real wrth ystyried chwyddiant.

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r ddarpariaeth i'r Grant Cymorth Tai a'r llinell gyllideb atal digartrefedd yng nghyllideb 2020-21 er mwyn sicrhau y gellir cyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru o ran lleihau digartrefedd nes nad yw ond yn digwydd mewn achosion prin, ei fod yn fyrhoedlog pan fo’n digwydd ac nad yw’n digwydd dro ar ôl tro.



Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Mae'r Pwyllgor wedi sôn eto eleni fod sicrhau digon o arian i gyllido ysgolion yng Nghymru yn hanfodol. Er ei fod yn croesawu’r cynnydd yng nghyllid awdurdodau lleol a’r ymrwymiad a roddwyd gan lywodraeth leol i’w ddefnyddio i flaenoriaethu cyllid ysgolion a gofal cymdeithasol, mae’r Pwyllgor yn dal i bryderu’n fawr am gyllid ysgolion yng Nghymru. 

Mae adroddiad y Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro'r cyllid hwn yn drylwyr, a dangos i'r Cynulliad fod yr arian yn cyrraedd ein hysgolion.



Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Yn sgil y datganiad argyfwng hinsawdd a wnaed gan Lywodraeth Cymru, roedd y Pwyllgor yn disgwyl cyllideb drawsnewidiol a fydd yn dangos sut y bydd buddsoddiad yn cael eu blaenoriaethu er mwyn mynd i'r afael â'r mater. Ond daeth yr Aelodau i'r casgliad mai’r un drefn ag erioed oedd i’w gweld yn y gyllideb, a'i bod yn annerbyniol i Lywodraeth Cymru barhau i honni nad ydyn nhw’n gwybod cost a buddion posibl ei pholisïau datgarboneiddio.

O'r flwyddyn nesaf ymlaen, mae'r Pwyllgor yn disgwyl i Lywodraeth Cymru newid ei ffordd - mi ddylai'r gyllideb ddrafft gael ei chyflwyno ochr yn ochr â gwybodaeth fanwl am effaith carbon y dyraniadau yn y gyllideb.  



Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Mae adroddiad y Pwyllgor yn ceisio mynd y tu hwnt i ffigurau pennawd Cyllideb Ddrafft Cymru trwy edrych ar gyllid rheilffyrdd, cyllid ymchwil a datblygu a sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi economïau rhanbarthol yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor yn galw am fwy o dryloywder ar gyllido KeolisAmy, y cwmni sy'n gweithredu masnachfraint reilffordd Cymru a'r Gororau fel TfW Rail Services, yn ogystal â thargedau perfformiad a'r gosb am wasanaeth gwael.

Yn ystod y broses graffu, fe wnaeth Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg, gyfaddef nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwybod faint o arian sydd wedi ei wario ar gyllid ymchwil a datblygu. Mae'r Pwyllgor wedi galw am adolygiad, yn enwedig gan fod swm sylweddol yn dod o'r UE ar hyn o bryd.

Mae'r Pwyllgor hefyd wedi galw am ryddhau ymchwil y tu ôl i Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol a Chyllidebau Dangosol Rhanbarthol newydd Llywodraeth Cymru a fydd yn cael eu defnyddio i ddatblygu economïau rhanbarthol ledled Cymru.



Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Mae’r Pwyllgor o’r farn nad yw'r gyllideb ddrafft hon yn dangos camau tuag at gynnwys atal salwch yn y brif ffrwd waith na chefnogaeth ar gyfer cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau. Yn y dyfodol, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos sut y bydd yn cefnogi newidiadau cynaliadwy wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn y tymor hir. Mae’r Pwyllgor eisiau i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar waith trawsnewid ac atal salwch yn strategol mewn cylchoedd cyllideb yn y dyfodol.



Daw'r adroddiadau yn dilyn trosolwg o'r gyllideb ddrafft a gafodd ei gyhoeddi gan y Pwyllgor Cyllid, a oedd yn mynegi pryderon ynghylch newid hinsawdd, tlodi a Brexit.

Dywedodd Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

“Rydyn ni mewn cyfnod heb ei debyg wrth i ni agosáu at Brexit ac os rhowch chi’r risgiau a’r cyfleoedd o’r neilltu, yr hyn y mae pobl yn chwilio amdano yn anad dim yw eglurder a sicrwydd.

“Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Lywodraeth y DU ddisodli cronfeydd Strwythurol yr UE. Ond dydy amaethyddiaeth ddim yn rhan o’r cronfeydd hynny, felly hoffai'r Pwyllgor gael sicrwydd y bydd y taliadau ffermio yn parhau fel arfer nes bod strwythur cyllido newydd yn cael ei gyflwyno. 

“Ddylai neb fod yn waeth eu byd oherwydd y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.”



Trafodir cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a chanfyddiadau'r Pwyllgorau yn ystod cyfarfod llawn o'r Cynulliad Cenedlaethol yn y Senedd ddydd Mawrth 4 Chwefror 2020.

Mae gwasanaeth ymchwil Comisiwn y Cynulliad wedi creu diagram rhyngweithiol i helpu i egluro cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gan gynnwys y newidiadau ers rhagamcanion y flwyddyn flaenorol.