Gyda dim ond mis tan gêm gyntaf Cwpan y Byd FIFA 2022, cafodd aelodau ifanc o dimau chwaraeon lleol Caerdydd gyfle i gwrdd â’u harwr, rheolwr pêl-droed Cymru Rob Paige, mewn dathliad arbennig yn y Senedd ar nos Fawrth 25 Hydref.
Mewn sesiwn gwestiwn ag ateb, cafodd chwaraewyr ifanc clwb pêl-droed Tiger Bay Juniors gyfle i holi rheolwr y tîm cenedlaethol am baratoadau’r garfan cyn y twrnamaint yn Qatar.
"Bwysig iawn fod pawb gyda’r un cyfle i chwarae dros Gymru"
Gofynnodd Abdul Salam, 14, sy’n chwarae fel ymosodwr i Tiger Bay Juniors, gwestiwn ynghylch amrywiaeth ymhlith y tîm.
Meddai Abdul, “Pan dwi’n edrych ar dîm Cymru dydw i ddim yn gweld llawer o chwaraewyr o gefndir Asiaidd, felly ro’n i wir eisiau gofyn i Rob am hyn. Ro’n i’n hapus gyda’i ateb achos mae’n bwysig iawn fod pawb gyda’r un cyfle i chwarae dros Gymru os wyt ti’n ddigon da. Dwi’n gobeithio bydd ‘na fwy o chwaraewyr Asiaidd yn cynrychioli Cymru yn y dyfodol achos bydd hynny’n ysbrydoli mwy o blant i chwarae pêl-droed.”
Cymru ar Ben y Byd
Roedd y digwyddiad ‘Cymru ar Ben y Byd’ yn y Senedd wedi ei gynnal ar y cyd rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r prif ddarlledwyr yng Nghymru; BBC Cymru Wales, S4C ac ITV Cymru Wales sydd wedi cydweithio i sicrhau darllediadau byw am ddim o holl gemau Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA.
O dan arweiniad y cyflwynydd chwaraeon Catrin Heledd cafodd y digwyddiad ei ffrydio'n fyw ar-lein er mwyn i holl gefnogwyr y tîm gael cyfle i ymuno hefyd. Roedd cyfle i bobl anfon cwestiynau drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gyda nifer yn cael eu dethol a’u hateb gan reolwr Cymru.
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i Lywydd y Senedd, y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, a’r Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, ddymuno’n dda i’r garfan ar ran pobl Cymru. Cafwyd anerchiad hefyd gan Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
"Mae sut wyt ti’n ymddwyn oddi ar y cae hefyd yn bwysig"
Un arall o chwaraewyr brwdfrydig Tiger Bay Junior a fanteisiodd ar y cyfle i ofyn cwestiwn i Rob Paige oedd Abdi Rahman. Gofynnodd i’r rheolwr pa rinweddau sy’n bwysig wrth ddewis chwaraewyr ar gyfer ei garfan.
Atebodd Rob Page, “Dyw’r cyfan ddim i wneud ag os wyt ti’n ddigon da i chwarae i Gymru. Os wyt ti’n chwaraewr dawnus yna rwyt ti’n siŵr o gael dy ddewis i fod yn yr ystafell newid, ond y peth mwyaf i ni yw’r awyrgylch. Dyw’r cyfan ddim ynghylch dy sgiliau fel chwaraewr, mae sut wyt ti’n ymddwyn oddi ar y cae hefyd yn bwysig.
“Mi wnes i gynnwys dau chwaraewr ifanc yn y garfan ddiwethaf am fy mod i eisiau iddyn nhw weld sut mae Ben Davies, Joe Allen, Aaron Ramsey, Gareth Bale yn ymddwyn, ar y cae ac oddi ar y cae. Nid yn unig fel chwaraewyr ond hefyd o ran cymeriad a dysgu sut maen nhw’n ymateb i sefyllfaoedd negyddol; dy’ nhw ddim yn pwdu, yn hytrach maen nhw’n torchi’u llewys ac yn gweithio’n galetach er mwyn llwyddo.”
"Mae’r tîm yn glod i Gymru gyfan"
Dywedodd y Gwir Anrh. Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, “Mae’n wych cael croesawu Rob i’r Senedd i ddymuno pob lwc iddo fe a’r tîm yn ystod y paratoadau terfynol cyn mynd i Qatar.
“Bydd miliynau o gyd-gefnogwyr Cymru yn gobeithio am ymgyrch lwyddiannus ond, beth bynnag sy’n digwydd ar y cae, mi fydd ein balchder a’n diolch am yr hyn mae Rob a’r tîm wedi’i gyflawni – i fenthyg yr ymadrodd – yma o hyd.
“Bydd ei gamp o sicrhau lle i Gymru ar lwyfan Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 mlynedd yn cael ei gofnodi yn y llyfrau hanes. Mae’r tîm yn glod i Gymru gyfan, ac mi fydd yn hynod gyffrous gweld y garfan yn hawlio’u lle yng ngornest fwya’r byd chwaraeon ymhen ychydig wythnosau.”