Digwyddiad gwibrwydweithio Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, #POWiPL - y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Cyhoeddwyd 28/02/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Digwyddiad gwibrwydweithio Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, #POWiPL - y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

28 Chwefror 2014

Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu gwesteion i ddigwyddiad gwibrwydweithio yn y Senedd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 7 Mawrth.

Mae’r digwyddiad yn rhan o ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus y Llywydd, #POWiPL, sy’n ceisio annog rhagor o fenywod yng Nghymru i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.

Mae’r Fonesig Rosemary wedi gwahodd cadeiryddion byrddau sefydliadau i gymryd rhan mewn trafodaethau un i un byr â menywod busnes yng Nghymru ynghylch sut y gallant oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag gwneud cais am swyddi ar fyrddau.

Bydd fformat y digwyddiad, a drefnwyd ar y cyd â Chwarae Teg, yn galluogi menywod busnes i sgwrsio mewn sesiynau byr â nifer o gadeiryddion, a fydd yn debyg i sesiynau ‘gwib gyfarfodydd’.

Dywedodd y Llywydd: “Y mis diwethaf lansiwyd y cynllun datblygu Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, #POWiPL.

“Nod y cynllun hwnnw yw annog rhagor o fenywod i wneud cais am benodiadau cyhoeddus, a rolau eraill mewn bywyd cyhoeddus, drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer mentora, cysgodi pobl mewn rolau penodol, a chyfleoedd i hyfforddi.

“Mae’r digwyddiad gwibrwydweithio hwn yn rhan o’r rhaglen ddatblygu hon, sy’n caniatáu i fenywod busnes yng Nghymru ddysgu o brofiad menywod sydd eisoes yn gweithredu fel cadeiryddion cyrff cyhoeddus.

“Mae dros hanner y boblogaeth yn fenywod, ond nid yw hynny’n cael ei adlewyrchu ar fyrddau iechyd, byrddau llywodraethwyr ysgolion, mewn siambrau cynghorau nac ar fyrddau sefydliadau cyhoeddus eraill.

“Bwriad fy ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus yw mynd i’r afael â’r prinder hwnnw, a gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli rhagor o fenywod i gael eu cynnwys mewn bywyd cyhoeddus.”

Bydd y Llywydd yn cyflwyno anerchiad croeso, ac yna ceir anerchiadau gan Rebecca Jones, sylfaenydd Rhwydwaith Menywod Gogledd Cymru, ac Emma Watkins, Cyfarwyddwr CBI Cymru.

Dywedodd Rebecca Jones: “Credaf y gall menywod busnes ddarparu buddion mawr i gyrff cyhoeddus, i adfywio cymunedau ac i wneud penderfyniadau gwleidyddol, yn sgîl eu profiadau amrywiol.

“Gobeithio y gallaf alluogi ac ysbrydoli rhagor o fenywod i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau busnes i sicrhau dyfodol yn y tymor hwy i sefydliadau, yn y sector cyhoeddus ac yn y sector preifat yma yng Nghymru”.

Bydd y digwyddiad gwibrwydweithio yn dechrau am 08.00 ac yn cael ei gynnal yn siop goffi’r Senedd, ond drwy’r dydd yn y Neuadd yn y Senedd bydd ‘marchnad’ ar gyfer arddangos busnesau a gaiff eu rhedeg gan fenywod.

Mae’r Cynulliad yn gweithio mewn partneriaeth â Chwarae Teg i wireddu eu cynllun “RhithFarchnad” drwy wahodd menywod busnes i arddangos eu cynnyrch ar stondinau, ar ffurf marchnad.