Digwyddiad lansio yn annog cymunedau yng Nghymru i fynd yn wyrdd

Cyhoeddwyd 28/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Digwyddiad lansio yn annog cymunedau yng Nghymru i fynd yn wyrdd

Cyngor i grwpiau lleol ar sut i ennill cyfran o’r wobr newid hinsawdd £1m

Mae’r Gwaddol Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau (NESTA) yn cynnal digwyddiad lansio yng Nghaerdydd i ddweud wrth grwpiau cymunedol o bob cwr o Gymru sut i fynd ati i ymuno â menter yr Her Werdd Fawr – a chael siawns i ennill cyfran o filiwn o bunnoedd.

Bydd y gystadleuaeth, sy’n rhedeg dros ddwy flynedd, yn gweld NESTA yn herio pobl o bob rhan o’r DU i gydweithio i ddangos ffyrdd newydd o leihau eu hallyriannau CO2.

Gallai’r syniadau fod yn newydd sbon neu’n ffordd newydd o ddefnyddio atebion sy’n bodoli, a’r grwp sydd â’r ymagwedd fwyaf dychmygus - a phrofedig - ar ddiwedd y gystadleuaeth fydd yn ennill y gyfran fwyaf o’r £1m sy’n cael ei chynnig gan NESTA.

Cynhelir y digwyddiad lansio i Gymru ddydd Iau 29 Tachwedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd o 12.00pm ymlaen.  Bydd cynrychiolwyr grwpiau lleol a chyrff di-elw ac aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb yn gallu clywed mwy am yr Her a sut i ymgeisio.  

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes fydd yn agor y digwyddiad drwy siarad am y rôl bwysig y gall cymunedau ei chwarae i ymdrin â newid yn yr hinsawdd. Bydd y rhai sy’n mynychu hefyd yn gallu cael eu hysbrydoli gan y siaradwr gwadd, Paul Allen, Cyfarwyddwr Datblygu’r Ganolfan Dechnoleg Amgen a fydd yn siarad am Fachynlleth, tref sydd wedi gosod ei thyrbin gwynt cymunedol (ail law o Ddenmarc) ei hun ac Ecodyfi, corff lles cymunedol sy’n cael ei reoli’n lleol, sydd â’r nod o feithrin adfywio cymunedol cynaliadwy yn Nyffryn Dyfi. Bydd cyrff allweddol fel yr Ymddiriedolaeth Arbedion Ynni ac UnLtd (Y Sefydliad dros Fentrwyr Cymdeithasol) wrth law hefyd i roi cyngor i ddarpar ymgeiswyr.

Dywedodd Prif Weithredwr NESTA, Jonathan Kestenbaum, “Rydym wedi cael ymateb aruthrol yn barod i lansio’r gronfa wobr £1m, sy’n profi bod pobl wrthi’n chwilio am ffyrdd o ddod â’u syniadau a’u hadnoddau ynghyd a chael mwy o effaith ar newid yn yr hinsawdd. Dyma’r adeg pan rydym wir am ysbrydoli grwpiau yng Nghymru am yr hyn sy’n bosibl a bydd y digwyddiad rhanbarthol yng Nghaerdydd yn gyfle gwych i wneud hynny.”

Dylai unrhyw un yng Nghymru sydd am fynychu digwyddiad Caerdydd neu ddysgu mwy am yr Her fynd i www.biggreenchallenge.org.uk lle gallan nhw gofrestru am y digwyddiad, neu ffonio 0845 850 1122.

Nodiadau i olygyddion

Pwy sy’n cael cymryd rhanŵ

Mae’r rhai sy’n gymwys i gymryd rhan yn cynnwys grwpiau sy’n bodoli’n barod, fel cangen leol o’r Sgowtiaid neu Gymdeithas Rhieni Athrawon, grwpiau newydd o bobl â diddordeb cyffredin, neu bobl a arweinir gan gorff di-elw, fel elusen.

Beth sydd nesaf?

Dylai grwpiau o Ogledd Iwerddon sydd am ymgeisio gofrestru eu diddordeb yn: www.biggreenchallenge.org.uk.  Yna bydd y gystadleuaeth yn agor i geisiadau cychwynnol o Ionawr hyd at ddiwedd Chwefror.  Dros chwe mis, bydd NESTA a phanel o arbenigwyr yn didoli’r ceisiadau nes cael y 100 cryfaf i ddechrau ac yna’r 10 syniad gorau.  Wedyn rhoddir blwyddyn i’r rhai yn y rownd derfynol  roi eu syniadau ar waith.

Sut caiff ei barnu?

Yn ystod ail flwyddyn yr Her, bydd rhaid i’r rhai ddaeth i’r rownd derfynol o bob rhan o’r DU gyflawni gostyngiad mesuradwy o allyriannau carbon deuocsid, gan gynnwys eu cymuned yn y gwaith a phrofi y gall eu syniadau gael eu hymestyn neu eu copïo mewn meysydd neu mewn lleoliadau gwahanol.

I ddysgu mwy am wneud cais i’r Her Werdd Fawr drwy’r post neu dros y ffôn, gall grwpiau ysgrifennu at yr Her Werdd Fawr d/o UnLtd, 123 Whitecross Street, Islington, Llundain EC1Y 8JJ, neu eu ffonio ar 0845 850 1122.

Ynghylch NESTA
NESTA yw’r Gwaddol Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau, y gwaddol unigol mwyaf sy’n ymroi’n unswydd i gefnogi dawn, arloesi a chreadigrwydd yn y DU. Ei nod yw gweddnewid gallu’r DU ym maes arloesi drwy fuddsoddi mewn cwmnïau cyfnod cynnar, llywio polisi ym maes arloesi ac annog diwylliant sy’n helpu arloesedd i ffynnu.