Dileu’r stigma ynghylch prydau ysgol am ddim er mwyn helpu i fynd i’r afael â thlodi plant, medd un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 02/02/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dileu’r stigma ynghylch prydau ysgol am ddim er mwyn helpu i fynd i’r afael â thlodi plant, medd un o bwyllgorau’r Cynulliad

2 Chwefror 2011

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio’n galetach i roi system prydau ysgol ddi-stigma ar waith yng Nghymru, yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r adroddiad gan y grwp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad ar dlodi plant yng Nghymru’n nodi mai 68% o ddisgyblion, ar gyfartaledd, sy’n cael prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd. Mae hyn oherwydd y byddai’n well gan rai plant fynd heb bryd na mentro cael eu sarhau gan eu cyfoedion.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r stigma hwn ar ei agenda tlodi plant, trwy roi canllawiau clir i ysgolion ar sut i roi system prydau ysgol am ddim newydd ar waith erbyn 2011.

Mae’r adroddiad yn nodi bod dyheadau plant mewn tlodi yr un fath â dyheadau’r plant hynny sydd o deuluoedd mwy cefnog pan fyddant yn 7 neu 8 oed ond, erbyn eu bod yn 10 neu 11oed, maent yn llawer is.

Mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod unrhyw hyfforddiant athrawon yn cydnabod pwysigrwydd y ‘cyfnod pontio’ hwn ac yn ceisio helpu athrawon i ganfod ac ymyrryd yn gynnar er mwyn rhoi cymorth i bobl ifanc sy’n byw mewn tlodi.

Ymysg yr argymhellion eraill mae’r angen i werthuso mwy ar fenter flaenllaw Llywodraeth Cymru sef Teuluoedd yn Gyntaf. Yn ôl yr adroddiad, nid yw’n cael ei monitro’n dda er gwaethaf cael ei chroesawu’n gyffredinol.

Nod yr ymchwiliad yw monitro’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran mynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru. Dyma drydydd adroddiad y Pwyllgor ar y maes hwn.

Dywedodd Helen Mary Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae mynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru’n fater sydd wedi cael ei drafod ers tro.

“Mae’r dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn dangos bod y cynnydd yn fratiog a bod meysydd o bryder gwirioneddol yn parhau i fodoli er gwaetha’r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n gweithio’n gadarnhaol i ddileu tlodi plant.

“Mae’n rhaid i ni edrych ar y ffordd y mae’r system prydau ysgol am ddim yn cael ei gweithredu. Clywsom am fanteision system ddi-arian – lle mae pob disgybl yn defnyddio’r un dull o dalu – ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried system debyg.

“Rydym hefyd yn pryderu nad oes targedau fel y gellir mesur llwyddiant y fenter Teuluoedd yn Gyntaf. Mae gwerthuso’n allweddol i atebolrwydd ac mae’n rhaid cydnabod hyn.

“Mae’n rhaid i ni hefyd fynd i’r afael â’r canfyddiad sydd gan bobl ifanc sy’n byw mewn tlodi eu hunain; bod sicrwydd ariannol a gyrfa’n rhywbeth sydd gan ‘bobl eraill’. Mae’n rhaid i athrawon fod wedi’u paratoi ar gyfer rhoi cymorth i’r bobl ifanc hyn fel eu bod yn cael y siawns orau bosibl a bod agenda strategol wedi’i chydgysylltu ar eu cyfer.”

-Gellir cael gwybodaeth am ddau ymchwiliad blaenorol y Pwyllgor (2008, 2009) i dlodi plant yng Nghymru yma .

-Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yma.