Dim darlun clir o nifer y bobl sy’n aros am driniaeth ddeintyddol – adroddiad y Senedd

Cyhoeddwyd 15/02/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/02/2023   |   Amser darllen munudau

Does neb yn gwybod gwir raddfa’r argyfwng deintyddiaeth yng Nghymru, heb ddarlun clir o nifer y bobl sy’n aros i weld deintydd y GIG ar hyn o bryd. 

Mae hyn yn golygu na all cymorth gael ei dargedu at y mannau lle mae ei angen fwyaf i fynd i'r afael â'r ôl-groniad - dyna’r rhybudd yn adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar ddeintyddiaeth, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, 15 Chwefror 2023).  

Er bod COVID-19 yn anochel wedi cael effaith ddifrifol ar fynediad at wasanaethau deintyddiaeth y GIG, mae’r adroddiad yn nodi bod problemau hirsefydlog wedi bodoli cyn y pandemig. 

Yn ôl Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, efallai ei bod hi’n bryd cyflwyno newidiadau radical:  

“Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar fynediad at ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru ac ni ddylem danbrisio’r effaith negyddol ar y gweithlu.  

“Fodd bynnag, mae’r adroddiad hwn yn dangos bod problemau gwirioneddol yn y maes hwn hyd yn oed cyn COVID-19 – dywedodd tystion wrthym am danariannu hanesyddol yn ystod y degawd diwethaf.  

“Mae llawer o bobl yn sôn am system ddwy haen, lle mae’r rhai sy’n gallu fforddio talu am driniaeth breifat yn gwneud hynny. Ond a ydym mewn gwirionedd mewn perygl o greu system dair haen? Mewn system o’r faith, mae'r bobl sy’n methu cofrestru gyda deintydd y GIG, ond sydd hefyd yn methu fforddio talu am driniaeth breifat, yn cael eu gadael heb fynediad at driniaeth o gwbl, a gallant ond droi at wasanaethau deintyddol brys. 

“Mae’r argyfwng costau byw yn debygol o waethygu’r broblem hon, ac arwain at fwy o anghydraddoldebau o ran sut mae pobl yn cael mynediad at ofal deintyddol.  

“Mae diwygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru i gytundebau deintyddol wedi’i groesawu’n gyffredinol, ond mae rhai yn ei weld fel mân newid ar yr ymylon, pan mai’r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw camau i ddiwygio’r system yn radical.” 

Fel rhan o’i ymchwiliad, gofynnodd y Pwyllgor i bobl o bob rhan o Gymru am eu profiadau o geisio cael mynediad at ofal deintyddol.  

Dywedodd Rhian Davies o Rydaman nad oedd ei mab wedi gweld deintydd yn y pum mlynedd ers i’r ddeintyddfa GIG lleol gau.  

“Gaethon ni lythyr yn dweud bod ein deintyddfa yn cau – ac opsiynau ar gyfer 3 deintyddfa arall, ond maen nhw mor bell i ffwrdd. Mae un ohonyn nhw 40 milltir i ffwrdd. 

“Dydy fy mhlentyn ddim wedi gweld unrhyw un ers amser maith - mae'n 15 oed nawr a dydy e ddim wedi gweld unrhyw un ers 5 mlynedd. Oherwydd bod e ddim yn cael ei ystyried yn argyfwng, doedd neb yn fodlon edrych arno. 

“Rydyn ni’n deulu o bedwar a dydw i ddim eisiau mynd yn breifat, ond does dim dewis gen i.” 

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio a yw’r lefelau cyllid presennol yn ddigonol i ymdrin â’r ôl-groniad, ac i ystyried creu un rhestr aros ganolog ledled Cymru, gyda byrddau iechyd i weithredu eu rhestrau aros canolog dros dro eu hunain erbyn diwedd 2023. 

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma: Adroddiad Deintyddiaeth - Cymraeg.pdf