Dim dirwyn pwerau'r Cynulliad yn ôl - y Llywydd yn cyhoeddi gwelliannau arfaethedig pellach i Fesur Cymru

Cyhoeddwyd 20/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/10/2016

Mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi gwelliannau pellach i Fesur Cymru yn dilyn ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 10 Hydref.


Nod y gwelliannau yw mynd i'r afael â'r pryderon y bydd pwerau cyfredol y Cynulliad yn cael eu dirwyn yn ôl o dan y ddeddfwriaeth arfaethedig.


Cyn i'r Tŷ'r Cyffredin graffu arno, cymerodd y Llywydd gam arloesol i gyhoeddi gwelliannau er mwyn cynnig gwell eglurder a sicrhau bod y setliad newydd i Gymru yn glir ac yn ymarferol.
Nawr, cyn cyfnod Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi, mae'r Llywydd wedi ysgrifennu at Arglwyddi Cymru yn nodi pryderon eraill sydd heb eu datrys ac, yn benodol, yr egwyddor gyfansoddiadol bwysig y dylai'r Cynulliad gydsynio i unrhyw newid yn ei bwerau.


“Er fy mod yn croesawu'r cynnydd a wnaed ar y Mesurhyd yma, mae rhai materion yn parhau i fod heb eu datrys.” dywed y Llywydd yn ei llythyr.hyd yma, mae rhai materion yn parhau i fod heb eu datrys.” dywed y Llywydd yn ei llythyr.
“Mae'r gwelliannau yr wyf wedi eu cyhoeddi heddiw yn canolbwyntio ar sicrhau bod cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn glir, ymarferol ac nad yw'n dirwyn y setliad presennol yn ôl.
“Rwy'n falch o weld hefyd bod adroddiad rhagorol Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad, a gyhoeddwyd ar 6 Hydref, hefyd yn mynegi'r farn bod rhaid mynd i'r afael â'r materion hyn, ac ymysg ei argymhellion arwyddocaol, mae'n cymeradwyo'r gwelliannau penodol a gyhoeddwyd gennyf yn flaenorol.
“Rwy'n gobeithio y bydd yr awgrymiadau hyn yn cyfrannu at y ddadl bwysig ar ddyfodol setliad cyfansoddiadol Cymru.”

Mae'r gwelliannau eraill yn mynd i'r afael â dirwyn pwerau'r Cynulliad yn ôl drwy newid gofynion cydsyniad Gweinidogol sydd nawr wedi'u nodi yn y  a fydd yn: a fydd yn:

  • dileu gallu'r Cynulliad i ddileu neu addasu swyddogaeth un o Weinidogion y DU, lle byddai gwneud hynny yn atodol neu'n ganlyniadol;
  • dileu gallu'r Cynulliad i ddileu neu addasu swyddogaethau penodedig un o Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig sy'n a bennwyd ar ôl 2011 – yn benodol swyddogaethau Gweinidogion y DU o ran y Gymraeg;
  • cyflwyno cyfyngiad newydd, a fydd yn atal y Cynulliad rhag effeithio mewn unrhyw ffordd ar swyddogaethau awdurdodau eraill a gedwir yn ôl (ac eithrio Awdurdodau Cyhoeddus Cymru).

Llythyr i AC 20 Hydref 2016 (PDF, 337MB)

Llythyr i AC 20 Hydref 2016 (Word, 50KB) (Sesneg yn unig)