Disgyblion Cymru yn dysgu gwneud penderfyniadau'r dyfodol yn lansio senedd ysgol ei hun

Cyhoeddwyd 16/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/01/2018

Mae un o ysgolion Caerdydd wedi canfod ffordd arloesol o gyflwyno ei disgyblion i'r cysyniad o ddemocratiaeth a gwneud penderfynu, drwy sefydlu ei senedd ei hun.

Mae Ysgol y Wern yn Llanisien wedi dwyn ynghyd gynrychiolwyr o'r Cyngor Ysgol, Eco-Gyngor, Llysgenhadon Ysgol, Grŵp Digidol a Grŵp y Gymraeg er mwyn creu Cabinet Ysgol o'r enw Senedd y Wern.

Fe wnaeth disgyblion ymweld â'r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth 16 Ionawr lle gwnaethant gyfarfod â Julie Morgan, Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd, a Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones AC, a holodd y plant ynghylch eu blaenoriaethau, a oedd yn cynnwys yr amgylchedd a'r Gymraeg.

Yn ôl Mrs Moira Kellaway, Pennaeth Ysgol y Wern: "Mewn byd heriol, mae Ysgol y Wern yn ceisio darparu sgiliau perthnasol i bobl ifanc fel y gallant gyflawni eu llawn botensial.

"Mae ein senedd ysgol yn dwyn ynghyd am y tro cyntaf fyfyrwyr sy'n gweithio ar faterion fel technoleg ddigidol, yr amgylchedd a'r Gymraeg mewn fforwm a fydd yn eu galluogi i drafod materion tebyg i'r rhai sy'n cael eu trafod yn ein Cynulliad Cenedlaethol".

Dywedodd Elin Jones, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Mae gweithio gyda phobl ifanc a gwrando ar eu pryderon yn rhan allweddol o rôl y Cynulliad Cenedlaethol, ac rwy'n falch iawn bod Ysgol y Wern wedi canfod ffordd arloesol o ddarparu sgiliau i'w disgyblion fel y gallant siapio Cymru y dyfodol.

​"Mae'r Cynulliad yn croesawu neu'n ymweld â channoedd o ysgolion bob blwyddyn, ac yn ddiweddarach eleni byddwn yn lansio Senedd Ieuenctid ar ôl ymgynghori â miloedd o bobl ifanc yn ogystal â sefydliadau cynrychioliadol."


​​