Cyhoeddwyd 15/05/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Disgyblion yn cyflwyno neges heddwch ac ewyllys da'r Urdd
Daeth deugain o ddisgyblion o Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi i’r Cynulliad Cenedlaethol ddoe (dydd Llun 14 Mai) i gyflwyno neges heddwch ac ewyllys da’r Urdd i Aelodau a staff y Cynulliad.
Thema’r neges eleni, yr 85ain neges i’w chyflwyno, oedd hiliaeth ac roedd yn annog pobl ifanc i ymgyrchu, i gwestiynu ac i godi ymwybyddiaeth o hiliaeth o amgylch y byd.
Croesawodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC y disgyblion ynghyd â Rhodri Glyn Thomas, yr Aelod Cynulliad lleol, a ofynnodd iddynt rannu eu neges mewn cyflwyniad arbennig.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Roedd yn bleser cael croesawu Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi i’r Cynulliad i glywed y neges heddwch ac ewyllys da. Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn ymdrin â phroblemau pwysig y dydd ac yn dysgu am y broses ddemocrataidd.”