Disgyblion ysgolion cynradd o bob rhan o Gymru yn dod â’r Nadolig i’r Senedd

Cyhoeddwyd 08/12/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Disgyblion ysgolion cynradd o bob rhan o Gymru yn dod â’r Nadolig i’r Senedd

9 Rhagfyr 2011

Mae disgyblion ysgol gynradd o bob rhan o Gymru wedi addurno coed Nadolig a fydd yn cael eu harddangos ar ystâd y Cynulliad yn ystod cyfnod yr wyl.

Rhoddwyd y thema Beth mae’r Nadolig yn ei olygu i chi i’r disgyblion o Gonwy, Powys, Caerdydd, Abertawe a Chaerffili, a gofynnwyd iddynt wneud yr addurniadau â llaw.

Cafodd disgyblion o bedwar o’r ysgolion hefyd fynd ar daith o gwmpas y Senedd a chyfarfod â Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, a ddywedodd: “Roeddwn wrth fy modd yn cael croesawu’r disgyblion o wahanol ardaloedd o Gymru i roi eu stamp eu hunain ar ein dathliadau Nadolig yma yn y Senedd.

“Mae’n beth gwych i blant ifanc gael dod i’r Senedd, y man lle gwneir penderfyniadau ar gyfer Cymru, ac i ddod ag ychydig o hwyl yr wyl i’r adeilad eiconig hwn.

“Bydd coed sydd wedi’u haddurno gan y disgyblion yn cael eu harddangos ar ystâd y Cynulliad, fel y gall Aelodau’r Cynulliad a’r staff fwynhau eu gwaith caled.”