Diwrnod Cofio’r Holocost
Yfory (27 Ionawr), bydd Rosemary Butler, Dirprwy Lywydd y Cynulliad, yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â phobl o bob rhan o’r gymdeithas wrth nodi Diwrnod Cofio’r Holocost.
Bydd yn gosod torch ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o seremoni swyddogol yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
“Wrth gofio am y gwersylloedd lladd yn nwyrain Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd neu’r holl dywallt gwaed a fu yn Rwanda ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, mae’r diwrnod hwn yn ein hatgoffa o allu dyn i beri poen a dioddefaint anhraethol i’w gyd-ddyn,” meddai’r Dirprwy Lywydd.
“Dyna pam y dylai’r diwrnod hwn, o bob diwrnod, fod wedi ei nodi yn nyddiaduron pob un ohonom.
“Dylai pawb ddod ynghyd ar y diwrnod hwn i ddatgan na ddylai erchyllterau o’r fath fyth ddigwydd eto.”
Bydd y Dirprwy Lywydd hefyd yn rhoi darlleniad byr yn y seremoni a gynhelir am hanner dydd yfory yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.