Diwrnod hanesyddol wrth i’r pwerau deddfu cyntaf gael eu trosglwyddo i Gymru

Cyhoeddwyd 09/04/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Diwrnod hanesyddol wrth i’r pwerau deddfu cyntaf gael eu trosglwyddo i Gymru

O heddiw ymlaen mae gan y Cynulliad bwerau newydd i basio deddfau mewn meysydd yn ymwneud ag addysg y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, diolch i Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol - y cyntaf ers i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddod i rym.

Mae’r pwerau newydd a roddwyd i’r Cynulliad o ganlyniad i Ddeddf 2006 yn rhoi’r pwer i ni basio deddfau mewn meysydd lle mae gan y Cynulliad “gymhwysedd deddfwriaethol”, er enghraifft amaethyddiaeth, iechyd a diwylliant. Yn y meysydd hynny lle mae gennym gymhwysedd deddfwriaethol, gallwn greu deddfau, neu “Fesurau”, sydd ag effaith debyg i Ddeddf Seneddol.

Mae’r meysydd hynny y mae gennym gymhwysedd deddfwriaethol ynddynt wedi’u rhestru yn Atodlen 5 i Ddeddf 2006. Mae’n bosibl diwygio Atodlen 5 drwy Ddeddf Seneddol newydd, neu drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Mae’n rhaid i’r Cynulliad a Senedd y DU, ac wedi hynny Ei Mawrhydi yn ei Chyngor, gymeradwyo Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.

Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Addysg a Hyfforddiant yw’r Gorchymyn cyntaf i gael cymeradwyaeth y Cynulliad a’r Senedd ac mae’n awr wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol Ei Mawrhydi.

Dyma sut y mae’r broses yn gweithio - cafodd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ei gynnig gan y Gweinidog Addysg ac yna sefydlwyd Pwyllgor Cynulliad i graffu ar y cynnig. Bu pwyllgorau eraill o Aelodau Seneddol ac Aelodau Ty’r Arglwyddi hefyd yn craffu arno.

Yn dilyn y gwaith craffu hwn, cafodd y Gorchymyn ei gymeradwyo gan y Cynulliad  a gan y ddau Dy yn y Senedd y DU cyn cael cymeradwyaeth frenhinol ddoe.

Cefndir

O heddiw ymlaen mae gan y Cynulliad bwerau newydd i basio deddfau mewn meysydd yn ymwneud ag addysg y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, diolch i Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol - y cyntaf ers i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddod i rym. Mae’r pwerau newydd a roddwyd i’r Cynulliad o ganlyniad i Ddeddf 2006 yn rhoi’r pwer i ni basio deddfau mewn meysydd lle mae gan y Cynulliad “gymhwysedd deddfwriaethol”, er enghraifft amaethyddiaeth, iechyd a diwylliant. Yn y meysydd hynny lle mae gennym gymhwysedd deddfwriaethol, gallwn greu deddfau, neu “Fesurau”, sydd ag effaith debyg i Ddeddf Seneddol. Mae’r meysydd hynny y mae gennym gymhwysedd deddfwriaethol ynddynt wedi’u rhestru yn Atodlen 5 i Ddeddf 2006. Mae’n bosibl diwygio Atodlen 5 drwy Ddeddf Seneddol newydd, neu drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Mae’n rhaid i’r Cynulliad a Senedd y DU, ac wedi hynny Ei Mawrhydi yn ei Chyngor, gymeradwyo Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.

Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Addysg a Hyfforddiant yw’r Gorchymyn cyntaf i gael cymeradwyaeth y Cynulliad a’r Senedd ac mae’n awr wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol Ei Mawrhydi. Dyma sut y mae’r broses yn gweithio - cafodd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ei gynnig gan y Gweinidog Addysg ac yna sefydlwyd Pwyllgor Cynulliad i graffu ar y cynnig. Bu pwyllgorau eraill o Aelodau Seneddol ac Aelodau Ty’r Arglwyddi hefyd yn craffu arno. Yn dilyn y gwaith craffu hwn, cafodd y Gorchymyn ei gymeradwyo gan y Cynulliad  a gan y ddau Dy yn y Senedd y DU cyn cael cymeradwyaeth frenhinol ddoe.