“Does unman ar ôl i fynd” – un o bwyllgorau’r Senedd yn annog clybiau rygbi i bleidleisio dros ddiwygio Undeb Rygbi Cymru

Cyhoeddwyd 23/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/03/2023   |   Amser darllen munudau

Cyn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig Undeb Rygbi Cymru y penwythnos hwn, mae Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd yn annog clybiau rygbi i bleidleisio dros ddiwygio, a moderneiddio trefniadau llywodraethu’r Undeb.  

Mae datganiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor yn nodi: 

“Roedd y rhaglen ddogfen ‘BBC Wales Investigates’ am gasineb at fenywod, homoffobia a hiliaeth yn Undeb Rygbi Cymru yn ofidus ac yn anodd ei gwylio. Mae’n druenus mai’r unig ffordd y gallai’r unigolion dan sylw gael eu cymryd o ddifrif gan URC oedd drwy ildio eu hanhysbysrwydd a chodi eu pryderon yn gyhoeddus. Diolchwn iddynt am eu dewrder, ac i’r newyddiadurwyr am dynnu sylw at hyn. 

“Y penwythnos hwn, bydd URC yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig i ystyried cynigion i foderneiddio ei threfniadau llywodraethu ac i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn ei strwythurau. Mae cynigion tebyg wedi'u hystyried o'r blaen ond nid oeddent yn cyrraedd y trothwy o 75% o bleidleisiau sy’n ofynnol. Mae hwn yn gyfle olaf i Undeb Rygbi Cymru foderneiddio. Os gwrthodir y cynigion hyn, nid oes gan yr Undeb unman ar ôl i fynd.  

“Bu’n beth trist a niweidiol gweld sefydliad mor arwyddocaol ym mywyd cyhoeddus Cymru yn cael ei ddwyn mor isel. Rhaid i Undeb Rygbi Cymru nawr ddangos i bobl Cymru ei bod am fod yn sefydliad modern a chynhwysol. Rhaid iddi fachu ar y cyfle cyn bod y difrod sydd wedi’i wneud yn anadferadwy.”