Dweud eich dweud – A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael yr hawl i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg?

Cyhoeddwyd 12/02/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dweud eich dweud – A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael yr hawl i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg?

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwahodd pobl Cymru i ddweud eu dweud ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch yr iaith Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dymuno i San Steffan drosglwyddo’r pwer a fydd yn galluogi’r Llywodraeth i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg.

Mae’r pwnc eisoes wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau. Dyna pam, fel rhan o’i waith o graffu ar y Gorchymyn arfaethedig, y mae’r pwyllgor deddfwriaeth yn galw ar bobl i ddweud eu dweud.

Heddiw, mae aelodau’r Pwyllgor yn lansio ymgyrch bosteri sy’n annog pobl i anfon eu sylwadau ar dri chwestiwn penodol.

A ddylai fod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru'r pwer i wneud deddfau ar:

  1. hybu a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraegŵ

  2. pa wasanaethau a ddylai fod ar gael yn ddwyieithog i’r cyhoedd?

  3. rhyddid pobl i gyfathrebu â’i gilydd yn Gymraeg?

Gall pobl ddweud eu dweud drwy anfon eu sylwadau drwy e-bost i swyddfadeddfwriaeth@cymru.gsi.gov.uk

Dywedodd Mark Isherwood AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae Cymru’n genedl ddwyieithog, felly mae gennym oll farn ar faterion sy’n ymwneud â’r iaith. Dyna pam yr ydym yn awyddus bod cymaint o bobl â phosibl yn mynegi eu barn ynghylch a ddylai fod gan y Cynulliad Cenedlaethol y pwer i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg.”

Bydd posteri’n cael eu dosbarthu i lyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol ledled Cymru mewn ymgais i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl.

“Byddwn yn ystyried yn ofalus y meysydd lle byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud deddfau Cymreig (Mesurau), gan ystyried a yw cwmpas y Gorchymyn yn rhy eang neu’n rhy gyfyng.”  

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi cyhoeddi cyfres fwy manwl o gwestiynau sydd i’w cael ar y wefan, a bydd yn gwahodd unigolion a sefydliadau i roi tystiolaeth yn ystod ei gyfarfodydd.

Nodiadau:

1) Dyddiad cau yr ymgynghoriad yw 20 Mawrth 2009.

2) Gellir gweld gwybodaeth lawn am yr ymgynghoirad, y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ac am y Pwyllgor:

Posteri "Dweud eich Dweud" yn cael eu arddangos tu fas Adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd  Gwyliwch y bwletin fideo

3) Gallwch anfon eich sylwadau drwy e-bost i:

swyddfadeddfwriaeth@cymru.gsi.gov.uk

Neu drwy ei bostio i:

Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5, Y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA

4) Nodwch a ydych yn ymateb ar ran sefydliad neu fel unigolyn. Fel arfer, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn i’r cyhoedd graffu arnynt, er enghraifft drwy wefan y Cynulliad. Fel arfer, byddwn yn cyhoeddi enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr awdur ynghyd â’r ymateb. Os nad ydych am i ni gyhoeddi eich ymateb neu eich enw a’ch cyfeiriad (neu ran o’r cyfeiriad) mae’n bwysig eich bod yn nodi hyn yn glir yn ysgrifenedig ar ddiwedd eich cyflwyniad.